Tudalen:Diarhebion Cymru.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Roedd gwall wrth brawfddarllen y dudalen hon

RHAGYMADRODD

MEDDWL doeth oes yw dihareb. Cyn y cofir hi, rhaid. iddi fod yn wir, ac yn wir y mae pawb yn ddeall. rhaid iddi fod yn brofiad pob dydd. Rhaid ei bod o'r ffurf dlos a seml. Os bydd fel hyn, caiff fyw.

Gall dihareb fod yn waith oesoedd,—pobl oes ar ol oes yn ei harddu a'i gloewi, hyd nes y mae o'r diwedd mor eglur, mor dryloew, ac mor gryno ag y gall fod. Gall diharab arall ddod i fod ar unwaith,—rhyw fflach yn dod i feddwl un, a honno 'n dod yn brofiad milodd.

Y ddihareb yw'r peth mwyaf byw, a'r peth mwyaf defnyddiol, yn llenyddiaeth y byd. Medr bardd wneyd awdl, rhaid cael conedl i wneyd dihareb.

Nod plant URDD Y DELYN YW adnabod Awen Cymru. Ryw dro, cânt flas ar y traethawd dyfnaf ac ar y gân grymusaf. Ond rhaid iddynt ddechreu gyda'r diharebion, tra bo'r cof yn ystwyth ac yn gryf.

Beth geir o ddysgu'r Diarhebion?

Ceir gweled y dull goreu o ddweyd y gwir,—y dullll mwyaf cryno, y dull mwyaf eglur, yn yr iaith mwyaf seml a naturiol. Ceir gwybod sut i ochel chwydd a thywyllwch wrth ysgrifennu. Y gwir, eglur fel darlun, gair mewn dihareb