Tudalen:Diarhebion Cymru.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

URDD Y DELYN

Urdd o blant Cymru yw hon. Unig amod aelodaeth yw cadw y rheolau hyn, — '

1. Dysgu siarad ac ysgrifennu Cymraeg ; darllen rhan o'r Beibl Cymraeg, neu ryw lyfr Cymraeg arall, bob dydd, ac ysgrifennu Cymraeg o'i gyfansoddiad ei hun.

2. Astudio hanes Cymru, a gwneyd ei oreu i godi ei wlad, fel y byddo Cymru fydd yn well na'r hen Gymru.

3. Dysgu canu'r delyn, os bydd hynny yn y cyrraedd; a dysgu alawon Cymreig.

4. Byw, hyd y gall, yn ol dysgeidiaeth lien Gymry gynt, mor bell ag y mae'r ddysgeidiaeth honno'n un a dysgeidiaeth Crist

Y mae'r ddysgeidiaeth honno'n gofyn purdeb, cariad at addysg, caredigrwydd at ddyn, addfwynder at greaduriaid direswm, iaith ddihalog

Anfoned ymgeiswyr am aelodaeth at O. M, Edwards Llanuwchllyn. Gellir cael bathodyn yr Urdd pris swllt, oddiwrtho ef. Nid oes dim i'w dalu am ymuno