Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARWOLAETH DAVID OWEN

BWLCHCOCH, GER DOLGELLAU

Ow! Dafydd, wiwrydd wron—fu'n oesi
Yn fynwesawl Gristion,
Y brawd mwynaidd, llariaidd, llon,
A ddygwyd i fedd eigion.

Du ofid ar ol Dafydd—bair edwi
Brodyr a chwaeriorydd;
Dyn oedd ef da yn ei ddydd,
Cry' ei afael mewn crefydd.

Trem alarus, trwm i Laura,—Wenferch,
Fu anfon i'r gladdfa
Mor gynnar, darpar ei da
Gu addien brïod gwiwdda.

Selog, dduwiol was hylwydd,—y'i cafwyd,
Cyfaill pur didramgwydd;
Bu'n weithgar iawn mewn llawn llwydd,
A'i rodiad yn ddiw'radwydd.


MARWOLAETH LYDIA JONES

DOLGELLAU.

Aeth Lydia etholedig—drwy rinwedd
Yr Iawn bendigedig,
O'r byd brau a'i delmau dig
I baradwys buredig.

Hynod goeth ei henaid gwyl—a ddyrchodd
I'r ardderchog breswyl,
Lle seinia a'i llais anwyl
Fawl i'w Hiôr mewn nefol hwyl.