Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bugeiliaid, gwylliaid gwallus,—annoethion,
Eithaf cenfigenus;
Ow, gwŷr gwellt, sofl, gwair, ac ûs,
Yw'r bratiau—fe ŵyr Brutus.

Bugeiliaid yn bygylu—a lluchiaw
Eu llwch ar i fynu;
Lluddia'u cwmwl dwl a du,
Erchyll, i'r "Haul" lewyrchu.

Bugeiliaid yn labio'u gilydd—ydynt,
Dros ddaliadau crefydd;
Ond Ifor, yn enw Dafydd,
Cawr o'r De, sy'n cario'r dydd,

Llewelyn, ddwlyn, a ddulia—Ifor,
Myn e fod yn drecha;
Pwnia Sierlyn wed'yn, a
Yr hen Idwal ddyrnodia.

Pedwar llais, dyfais un dyn,—a'i wawdiaith,
Yw Idwal a Sierlyn,
Ac Ifor, gwelltor llawn gwŷn,
Hyll olwg, a Llewelyn.

Wel, yn awr, feddyliwn i,—mai anhawdd,
Er mynych ymholi,
Cael tan nen un i'w enwi,
Wrth ddadlu, yn trechu tri.

Ond gerwin nwyd engiriol—ennyna
Yn anian sel bleidiol,
Bydd fel tân yn syfrdan siol
Wenwynig dyn hunanol.