Prawfddarllenwyd y dudalen hon
' Run fath a'r dyfroedd, fu'n ystôr
O'r eang fôr, yn pallu;
A'r afon oedd a'i ffrydiau'n bur,
Mae hdno'n prysur sychu.
Ac felly gwr, yn ngwaelod bedd
Fe orwedd ei ran farwol,
Hyd gyfnewidiad daear lawr,
A'r nefoedd fawr wybrenol.
Gan faint ei drallod yn y byd,
Mae lawer pryd yn wylo;
Chwennycha'n fynych yr un wedd
Gael yn y bedd ei guddio.
Gwr a fydd marw, [1] hyn heb wâd
Sydd yn osodiad dwyfol,
Ac adgyfodir ef drachefn,
Yn ol y drefn arfaethol.
Dysgwyliaf, meddai Job, yn glau,
Holl ddyddiau fy milwriaeth,
Y cyfyd Crist fy nghorff yn fyw,
Er profi briw marwolaeth.
Ti elwi arnaf, o Dduw mau,
A minnau a'th atebaf;
Chwennychi waith dy ddwylaw mâd,
Sydd o'th wneuthuriad harddaf.
Fy nghamrau 'nawr mewn anial dir
A rifi'n gywir hynod;
- ↑ Nid os o ammheuaeth sydd yn yr adnod, oblegid credai Job athrawiaeth yr adgyfodiad mor gadarn a marwolaeth y corff.