Tudalen:Diliau Meirion Cyf I.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Rhifer llwyth Issacer hefyd—hwythau
"A ddaethent yn unfryd,
"Yn gawri llawnfri llonfryd,
"Ymdrechgar, gweithgar i gyd.

"Drwy wych odiaeth ymdrechiadau—enwog
"Wroniaid ein llwythau,
"Ac arfaeth rhagluniaeth glau
"Yn arwedd ein banerau,
"Dw'r a thân diwrthuni
"A'r gwynt a'n cyfnerthynt ni;
"Anian ei hun a wenawdd,
"Yn erfai gweinyddai nawdd."

Gwiwlwys caed buddugoliaeth—ar filain
Ryfelawg genedlaeth;
Ar un dydd i'w rhan y daeth
Du wgus farnedigaeth.

"Yr hen afon hòno'n hawdd
"O'u holl obaith a'n lleibiawdd.


"Llwyr ysgubwyd y llerw weis cibawg
"Gan ffrydiau gwylltion mawrion murmurawg,.
"Trwy wyw ochenaid i'r eigion trochionawg
"Yr afon ffrochwyllt, ferwwyllt lifeiriawg,
"Sef Cison chwyddfawr lwydfawr ddofn leidiawg;
"Fy enaid, oedd ruddfanawg,—adlonwyd,
"A hylwyr ddyrchwyd i hwyl ardderchawg. "

Fe unodd yr elfenau—ymwylltiodd
Y mellt a'r taranau;
Cenadon mawrion Duw mau—a'u dryllient,
Ac ni arbedent hwy na'u cerbydau.