Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAWL-GERDD W. W. E. WYNNE, Ysw., A. S. dros Swydd Feirion am ei haelfrydedd gwladgarol yn rhoddi tir claddfa i
Ymneillduwyr Dinas Mawddwy, &c.

Ton:—Belisle March.

Yr hardd bendefig dyrchafedig,
Caredig cywir iawn;
O linach lonwedd Gwynniaid Gwynedd,
Rhai doethedd mawr eu dawn.

Gwiw—fyg ofydd a naturiaethydd,
A doeth ladmerydd mawr,
Llew mirein-wych, llyw Meirionydd,
A'i llywydd ar y llawr;
Eich enw yn ddi-wad sydd glodfawr yn ein gwlad,
Hylaw benaeth o hil y bonedd,
Mor rhyfedd fu eu mawrhâd;
Rhai elusengar di-rodres-gar,
A hawddgar drwy eu hoes;
Heirdd a selog urddasolion,
Cariadlon fwynlon foes;
A chwithau ydych hael, a ffyddlon wr di-ffael,
Yn gwasgar rhoddion i dylodion,
Efryddion gweinion gwael.
Y Llanegryniaid a'ch llon goronant,
A llefant am eich llwydd,
Dymunant i chwi bob daioni a gwir fawrhydi'n rhwydd.

Eich hardd-wych urddas, a'ch coeth gyweithas,
Yn mhob cymdeithas deg,
Sydd dra rhagorol fel gwr cyfrifol,
Da freiniol a di-freg:
Pan eich canfyddir fe lawenychir,