Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
ENGLYNION
I'r “ CAMBRIAN HOTEL ,” gwesty newydd Mr. W.JONES,
Llangollen.
Gawried pawb oll yn Llangollen ,-heddyw
Mae'n hawdd bod yn llawen ;
Taenwyd cariad llad fel llen,
Yn fwgwd ar genfigen.
Wele hynod lawenydd , -agorwyd
Gwiw eirian dy newydd ;
Llangollen is wybren sydd,
Orwech iawn ar ei chynydd.
Gwesty na cheir ei gystal — yn fynych
O fewn i'r un ardal,
A gwron hardd goreu'n Ial,
Gonest sydd yn ei gynal.
Gwelliant a fydd i Langollen , -ac elw
Ddwg eilwaith i'w berchen ,
Cyn hir ni arswydir sen,
Cura brif westy CORWEN.
CAMBRIAN têr, porth y Berwyn - ei gelwir,
A golwg pur ddillyn
Sydd arno, pan delo dyn
I'w neuadd , tyr ei newyn .
Da iawn yma dan amod - heb oedi
Ceir bwydydd a diod ,
D