Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

72


Llwyddiant fo i'r llywyddion ~ tra siriol,
A'r trysorydd ffyddlon,
A'r llâd gofnodydd dewr llon
Di gynwrf da ac union .

CYWYDD

I goffa Mr. Hugh Pugh, Cefn y maes, Brithdir, tad
LEWIS Pugh, Ysw., Penbryn, Dolgelley, Bu farw
Rhagfyr 19, 1853, yn 90 mlwydd oed.
Eang gylch rhwyg angau gawr
A gyrhaedd i bob gorawr,
Ei gaeth lywodraeth lawdrom
Sydd dra erchyll ffrewyll ffrom :
Deddodd drwy bechod Adda

Arteith - fawr a blyngfawr bla ;
Ei hil syw'n wael osywaeth
Dan ddybryd ddedryd a ddaeth .
Dianc o grafange ryfedd

Angau glas ac ing ei gledd ,
Sy'n orchwyl dison archeb
Na wnaed ac ni wneir gan neb ;
Am hyn ni cheir bryn na bro
Na welir rhyw rai'n wylo ;

Pawb, pawb o ddeiliaid pob pau,
Lethir gan farwolaethau ;
Pob mab a merch, pawb ymhob man
Angau a'u deil yn ddiyngan ;
O'r baban gwan di gynwr,

A'i deg wedd, hyd oediog wr .

Diweddar yn llawn dyddiau