Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
82
A’u doniau di edwinawl,
A geir mor ddisglaer a'r gwawl.
Pybyr olrhainwyr hynoduchelaidd
A chwiliant i'r gwaelod,
Treiglaw pob gair trwy wiw -glod
A wnant, nes cyrhaedd y nôd.
Mae dawnus foddus ofyddion , -moesgar
Yn eich mysg yr awron ,
A hyddysg fawrddysg Feirddion ,
Lliwgar bryd, yn llu ger bron .
Eich Athraw hylaw hwyliog - a golau
Yw Gwilym Hiraethog ;
Prif fardd seirian, (Glân ei Glog)
Duwiolaidd a dihalog.
ENGLYNION
I Mr. DAVID JONES, Fferyllydd yn Llynlleifiad.
Dafydd fel gwir bendefig — uchel-wych ,
A chalon garedig ;
Gyda phwyll, heb dwyll na dig,
Ymwriodd o du Meurig.
Hynaws gwnaeth gasglu enwau , -arbenig
Dderbynwyr y Diliau,
Rhai darllengar clodgar clau ,
Di-gynen , do ugeiniau .