dosparth o fynachod a enwid "Cisterciaid," ac yr oedd yn gyf- Iwynedig i St. Mair. Ymwelais à llanerch lle saif gweddillion yr. hen Fynachlog hyglodus, Medi 10fed, 1901, a chefais fod ei godid- owgrwydd cyntefig wedi cwbl gilio ymaith. O flaen ei ffenestri darniog a chysegredig gwelais foneddiges ieuanc a theg o Seis'nes yn paentio y gweddill fawrwychder a arosai o'r deml henafol, ac yn gwerthu cynyrchion ei thalent i ymwelwyr am elw mawr. Yna arweiniwyd fi gan gyfaill i weled yr adfeilion haeddbarch a safai o'm blaen. Sylwais ar lawer o gysylltiadau o'i heiddo'n gymysgedig âg adeiladau ffermdy'r Faner; eithr cedwid yr eglwys, fel ei golygid, gyda gofal parchus yn lled gyfan. Saif y pen dwyreiniol i fyny'n dalgryf er gwaethaf ystormydd, yn nhalcen pa un y ceir tair ffenestr bigfain, agos yn llawn o eiddew, tra'r mur deheuol a ddengys fwäau meini Gothaidd a philerau, yn aros er ymosodiadau oesau; a cheir yn agos ardeb o ben dyn wedi ei weithio'n gelfydd mewn maen. Dywed Hanes a Thraddodiad i Fynachod Abatty y Cwm Hir ddyfod i breswylio yma. Fel hyn y mynegir y peth:— "Hysbysir i gynulleidfa y Cwm Hir ddyfod i bresswylaw y y Cymer y Nannav y Meirionydd." Wrth hyn y golygir i nifer o aelodau ymadaw o'r gyntaf ac ymunaw â'r olaf, canlyniad, feallai, i ymosodiad Owain Glyndwr ar Abatty y Cwm, byddin yr hwn a'i hanrheithiodd.
Carnhuanawc, yn ei "Hanes Cymru," tud. 656, a edrydd yr ymgyrch canlynol, ar awdurdod Math. Paris: Pan ddeallodd Harri'r III. fod y Cymry o dan eu Tywysogion yn anrheithio'r ardaloedd Seisonig gyda llwyddiant parhaus, ac ddarfod i De Burgh dori penau rhai o'r gorchfygwyr Cymreig, a'u danfon i'w frenin i'w dangos: i Llewelyn, pan glywodd hyn, ffromi'n aruthr, ac ymosod ar diroedd yr Arglwyddi Seisnig, gan wneyd galanastra dirfawr. Pan glywodd Harri hyn digiodd yn enbydus: cynullodd fyddin fawr yn Rhydychain, wedi ysgymuno ohono Llewelyn, câd- deithiodd rhyngddo ag Henffordd, gan brysuro'n mlaen am gastell Trefaldwyn, lle gwersyllai'r Tywysog, mewn mangre isel gerllaw cors. Ac yma, medd M. Paris, y dichellodd faglau i filwyr y