pryd y daeth Mynachlog ac Abbad y Cymer i'r wyneb yn dra amlwg. Pan oedd arfau yn methu darostwng yr hen genedl, ceisiodd brenin Lloegr, Harri'r I., gan Esgob Caerwrangon (Worcester) esgymuno Dafydd, a hynny a wneid "oddiar sail cytundeb ei ymostyngiad iddo fel ei uchdeyrn, a chadarnhad yr unrhyw trwy fygythiad o gerydd eglwysig, os byddai iddo ei dori." Credai Dafydd yn gryf yn nylanwadau'r Eglwys yn neillduol yn ngwedd. ïau'r mynachod, a rhag digwydd aflwydd iddo, anfonodd at y Pab am ei amddiffyniad yn erbyn Harri, gan geisio ganddo ei ryddhau oddiwrth ei lŵ o fod yn ymostyngol i frenin Lloegr. Tyngai mai ei orfodi a gafodd i wneyd y llw, ac addawai ddal a chadw ei Dywysogaeth yn ymostyngol i'r "Esgobaeth Sanctaidd," a thalu i'r Pab bob blwyddyn 500 o farciau (pob marc, neu morch yn 13s. 4c.) fel teyrnged. Ond ei Sancteiddrwydd y Pab, yn gyfrwys, er yn awyddus i'r cynygiad arianol, a betrusai benderfynu heb chwilio'n gyntaf am gyfiawnder ar wahan i honiad a deisyfiad Dafydd, a daflai ryddid i ddwylaw Abadau Cymer ac Aberconwy, trwy ysgrifenu, Gorphenaf 26ain, 1244, i chwilio'n fanol drwy'r holl achos apeliedig. A dywed Rapin, yn ei "History of England," i'r Pab awdurdodi Penau'r Abbattai hyn ddirymu'r llw, os ymddangosai'r ymchwiliadau iddo gael ei ddwyn oddiamgylch drwy ddirwasgiad. Gohebodd yr Abbadau hyn â'r brenin,—ar iddo eu cyfarfod yn Ngheri[1], ger y Drefnewydd, ar noswyl Agnus Sant, Ionawr 20fed, 1245, os gwelai ef yn angenrheidiol, i ateb i'r cyhuddiad a ddygid yn ei erbyn. Gweler yma mor fawr oedd dylanwad y mynachod mewn cymdeithas y pryd hwnw, yr oedd yn llaw y Tad o Rufain yn peri i orsedd y teyrn grynu! Ond methodd y myneich y tro hwn: gwelai rhaib Harri gynysgaeth braf o'i flaen, ac i'w henill, ond medru ohono blygu Dafydd i'w ufudd—dod. Cynlluniodd a chasglodd fyddin fawr i ddarostwng y tywysog Cymreig. Dygodd trwy gyfrwystra cyfranu arian i'r gyfrwystra—cyfranu arian i'r Pab—foddion arall i ategu ei ymgyrch ryfelgar yn Nghymru, enill ei Sancteiddrwydd o Ddinas y Tiber o'i blaid, ac yn llwydd ar ei
- ↑ A enwid felly oddiwrth "Ceri Hir Lyngwyn," taid Caradog, medd y diweddar Barch. John Jenkins, M.A., Ficer y plwyf.