Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HENGWRT.

Gwledd i feddwl a golwg a gaiff yr ymwelydd pan edy y dref, ar ddydd hirddydd haf, am filltir o daith yn nghyfeiriad Llanilltyd. Gwel Lys Mynach ar y dde iddo; yna ar y chwith, Dr. Williams' Endowment High School for Girls, a ddyga'r geiriau:—

"This Stone of the Dolgelley Girls' School was laid Sept. 21st, 1876, by Mrs. Holland, Caerdeon."

Wedi hyn denir ei sylw at y "Dolydd" (Wynne), a'r fron brydferth draw yn cynyg i'w sylw balasau heirdd o bob llun a maint. Swynir ei deimladau â cherddi digyffelyb a chyngherddau corau cymysg pob aderyn gwyllt yn rhoi ei salmau yn rhad ac am ddim. Wedi hyn, ar dröad y ffordd, wele Hengwrt, sydd yn hen bryseddfod olygus, a fu unwaith yn sedd i'r hynafiaethydd nodedig, Mr. Robert Fychan, ond sydd yn awr yn eiddo i Miss F. Cobbe. Ceir yma rif enfawr o Lawysgrifau Cymreig, a henafiaethau a hanesiaeth damlygol oreu'r Dywysogaeth. Ond heddyw ni chaiff henafiaethydd a'i drysorau fyned gam pellach na'r drws! Caed Miss F. P. Cobbe yn farw'n ei gwely Ebrill 5, 1904, yn 81 mlwydd oed. Undodiad oedd, a hanai o deulu Gwyddelig, ac yr oedd yn awdures y "Philosophy of the Poor Laws," "The Sick in Workhouses," a'r "The Workhouse as a Hospital." Yr oedd siars yn yr ewyllys ar i'r meddyg dori corn y gwddf cyn claddu'r corph er gochel perygl claddu'n fyw; yr oedd ei harch i fod o'r pren salaf, heb enw nac oed, ac na neb i wisgo du yn ei hangladd, a thrwy hyn gwelir mai dynes od ydoedd hon yn ei bywyd, yn ei marwolaeth, a'i chladdedigaeth. Claddwyd hi yn. Llanilltyd.

NANNAU

yw preswylfa harddwych Syr Robert Williams-Vaughan (Fychan), ac a saif oddeutu dwy filltir o Ddolgellau. Gorwedda ar fryn serth, uwch, meddir, na'r un palas boneddwr arall yn Mhrydain—702 tr. uwchlaw lyfel y môr, ac fe'i hadeiladwyd gan Syr R. Fychan, yn lle hen balas Hywel Sele, cefnder ffals a diegwyddor