Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfeddodau rhamantus gwlad Meirion, ni wna'n well-pan fyddo'r Gadair a'i phen yn y niwl-na dringo yr uchelfa odidog hon, a fydd yn nes ato, a chaiff yn ad-daliad am ei dipyn blinder yr holl leoedd o werth a sylw ar a gofnodir yn y Traethawd hwn, yn un panorama fendithlawn yn cydgyfarfod o'i flaen. Dyga'r Foel gedyrn ragfuriau o'r oesau gynt, oddifewn i ba rai y ceir "cytiau," ac feallai'n wir mai "Cyttiau'r Gwyddelod" ydynt, gan eu bod yn dra thebyg i'r mathau hynny o adeiladau. Enwid y lle yn Foel Offrwm gan rai, ond nid oes un arwydd ar ei lloriau heddyw am na bwrdd nac aberth: eithr dyga ei henw ddyddiau blinion ein cyndadau atom, pan geid beunydd rhyw elyn o nod yn diweinio ei gledd yn ngwyneb y Cymro.

RHYD WEN.

Saif y lle hwn oddeutu milltir o'r dref ar ffordd Pen-y-bryn, yn mha le, Mawrth 31ain, 1881, y cyflawnwyd ysgelerwaith gan un Evan Jones, gynt argraphydd cyfrifol yn y dref, a diacon a ystyrid yn barchus gyda'r Annibynwyr. Bywiai Jones a'i wraig yn y lle a nodwyd ar eu moddion annibynol; collasant eu hunig blentyn, merch ieuanc dêg ac addawol, a byth wedi hyn ni chaid ei thad yr un dyn, ac aeth i gario syniad isel am ei wraig, ac wedi dychwelyd adref o bleser-rodio ac ymweled â chyfeillion ar brydnawngwaith, ymosododd ar ei wraig mewn modd llofruddiog, tra yr eisteddai hyhi o flaen y tân yn darllen papyr newydd. Holltwyd ei phen yn ddau â bwyell fechan, a rhedodd y llofrudd ymaith i ystafell uwchlaw, a diweddodd ei hun trwy dori ei wddf âg ellyn!

CADAIR IDRIS.

Dyma hen arsyllfa nodedig Idris Gawr, o fewn rhyw oesau pell yn ol. Cyplysir ef â Gwyn ab Nudd a Gwydion ab Don yn "dri gwyn serenyddion Ynys Prydain." Gelwid y cyntaf yn "gawr," yr ail yn frenin y tylwyth teg," a "phenaeth Gwlad Hûd a Lledrith," a'r trydydd yn "Buelydd Gosgordd" a "Gwyn Serenydd." Saif coryn y Gadair uwchlaw Dolgellau 2850 troedfedd, ac nid oes namyn dau drum yn Arfon yn uwch na hon.