Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o tua 30 tr. o godwm gerbron; ar y chwith, gwelir y rhaiadr blaenorol yn ymluchio dros y clogwyni, yn cuddio y cyfan á gwisg o ewyn canaid rhwng creigiau wedi cael eu coroni ag addurniadau o goed tyfadwy. O fewn tua dwy filltir i'r rhai hyn, ar y gogleddddwyrain, mewn dyffryn cul, dwfn, llawn o goed, y mae ceunentydd Pistyll Cain," a "Phistyll Mawddach," o fewn ychydig o bellter oddiwrth eu gilydd; cyrhaeddir y cyntaf drwy groesi pont wledig, wedi ei llunio drwy gorph derwen wedi ei gogwydd o'r naill graig ar y llall, uwchlaw agen ddofn, gul, drwy yr hon y mae y "Cain" yn ymwthio gyda thrwst mawr, ac ymosodiad bygythiol; wedi disgyn i'r gwaelod, y mae'r afon i'w gweled yn ymyru rhagddi hyd estyll o'r graig, oddeutu 200 tr. o uchder, agos yn unionsyth, yn disgyn ar gerrig wedi eu treulio i ffurfiau cywrain a rhyfedd iawn.

Y mae Pistyll Mawddach" yn cynwys tri chodwm, y cyntaf yn ffurfio llen o ddwfr tua 20 tr. o lêd, ac yn agos i hyny o uchder, yr hwn sydd yn cael ei dderbyn i gelwrn naturiol, tua 30 tr. o draws-fesur, yna rhêd yr afon dros yr ail glogwyn, gyda chwymp o tua 30 tr. i ail gelwrn, mwy na'r cyntaf: ac oddiyno drachefn, gan ymgulhau, dros drydedd astell, gyda chodwm o 20 tr., i lyn eang, o'r hwn y rhéd yn ffyrnigwyllt nes ymuno â'r "Cain."

Y mae afon fechan "Clywedog," sydd yn codi ar lechwedd Cader Idris, o fewn y plwyf hwn, ac yn ei llwybr o tua dwy filltir, yn ffurfio amryw fân raiadrau, ond rhai ohonynt yn ffurfio cwympiadau o 50 tr., ac yn wrthddrychau o gryn ddyddordeb i bob ymdeithydd ymofyngar. Y mae'r afon yn rhedeg drwy diroedd amryw foneddion yn y gymydogaeth, gydag ymylon yr hon y mae Ilwybrau hyfryd i rodio, er cael mantais i weled y rhaiadrau; ac ar ol gwlawogydd trymion y mae eu trwst yn hynod drwy eu disgyniad,

Rhaiadr ar raiadr a rydd
Dwrw gwyllt drwy y gelltydd,"

nes adsain yr holl ardal, a difyru'r ymdeithydd. Y ffordd i'r llwybr rhamantus sydd gerllaw Caerynwch ydyw trwy y ffordd a aiff am Machynllaith tua milltir; dilyn y llwybr ar y chwith sydd