dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a'r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du, sidanaidd, yn erbyn cerrig llwydion. y Gader; a'r difrifoldeb argraffedig ar ei gwynebpryd tirion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlyniad, ychydig o'i chyfeillion a'i pherthynasau galarus a'i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o gerrig ar lechwedd y mynydd. Wedi adrodd y prudd—hanes uchod, cymerth Gwenlliw ei thelyn, a chwareuodd arni un o'r hen alawon syml a chynhyrfus Cymreig. a wefreiddiant yr enaid, ac a barant i Gymro anghofio ei ddyndod. Dylynai y fanon ieuanc y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf gyda geiriau gwladgarol rhyw hen fardd Cymreig; ac wed'yn mewn dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro honno, Mrs. Hemans. Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fyny gan Hanes Pendefiges y Gader,'—ystyriai hi yn siampl i fenywod y byd, ac yn arwres deilwng i'w hefelychu.
"Ond nid felly am y gweddill o'r cwmni: un a'i beiai am ei rhyfyg, y llall a gondemniai ei hanufudd-dod i'w chynghorydd crefyddol, ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y fath dyb wirionffol ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac yn unol âg arfer ei gydwladwyr call am bobpeth Cymreig, a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl.
"Nid effeithiodd gwrthwynebiad ei brodyr a'i chwiorydd ond ychydig ar dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd Griffin holl felusion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus arno, hi a'i hanerchodd:—
"Nid ydych yn gwybod eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y cewch wybod cyn hir.' Ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o'r cwmni fod ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig ar y pryd.