Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dlysach i orweddian, yn nghanol teleidion natur a chelfyddyd, llai o droseddau cymdeithasol, a mwy o ymlyniad mewn pobpeth a ddyrch gymeriad Gwalia a'i thrigolion. Bu "cyll" (lluosog o "collen") mewn helaethrwydd yma unwaith, os nad eto, a dyma'r rheswm i'r hen Gymry syml a llygadog roddi yr enw hwn i dref a orweddai ar ddol lawn o'r coed hynny, a rhoi enw arall estronol iddi fuasai "cyrchu dwfr dros afon," a cheisio gwadu'r ddawn Gymreig. Saif Dolgellau ar brif-ffordd Trallwm ac Abermaw, a rhestrir hi yn fwy poblog a chanolog ei sefyllfa nag un dref arall yn y sir. Mae perffeithiad celfyddyd mewn adeiladu wedi gwneyd i ffordd â'r hen anedd-dai tô gwellt, ac ereill anolygus a rhyfedd, a thai heirdd a chostfawr wedi eu codi ar ei heolydd afreolaidd, culion, croesion ac anghyson eu gosodiad. Ysgrifenydd arall a ddyry'r darnodiad canlynol o'r dref: Un o brif drefi sir Feirionydd ydyw Dolgellau, ac nid oes yn y sir gydgasgliad digonedd o annedd-dai i wneyd bwrdeisdref-tref wedi ei chodi ar yr hyn oedd gynt yn Ddol o gyll,' a dyna paham y gelwir y fan yn Dolgellau." Y mae yn lle dyddorol ar lawer ystyr. Gelwir hi weithiau yn ben tref y sir, am, mae'n debyg, fod yno neuadd sirol, er fod y Bala yn ymffrostio yn yr unrhyw urddas, ac am i'r carchar sirol fodoli yno am gyfnod maith; ond y mae Dolgellau wedi colli hyd yn nod yr " anrhydedd" a'r flaenoriaeth honno. Perthyna i'r lle ar hyn o bryd "fwrdd lleol," neu, os gwelwch yn dda, "gynghor dinesig" erbyn hyn; ond sefydlwyd y cyfryw, mae'n ddiau, yn rhy ddiweddar i osod trefn a dosparth ar gynlluniau y dref, yr hon sydd yn hynod am ei heolydd culion, croesion, a gosodiad anghyson y tai, amryw o'r rhai ydynt henafol a dilun. Dywedir gan Mr. Bingley, efrydydd colegawl o Ddolgellau, yr hwn yn ystod ei ymdaith yn un o drefi Lloegr, a ymffrostiai yn nhegwch ei dref enedigol, iddo gael hèr i ddesgrifio sut le oedd Dolgellau. "Wel, mi a ddangosaf i chwi," meddai, gan gymeryd gafael mewn costrel oedd yn ymyl, ac yna torodd amryw gyrc yn fân ddarnau. Wedi hyn bwriodd y cyrc ar ben y botel nes oeddynt yn blith draphlith ar y bwrdd. Dyna Ddolgellau," meddai: "yr eglwys ydyw y botel, ac y mae'r tai a'r heolydd yn union yr un modd ag y mae'r darnau cyrc ar y bwrdd." Saif y dref ddyddorol hon ar lan yr afon Wnion, cyn iddi ymarllwys i'r Mawddach, a rhed yr afon Aran, a ffrydiau hynod ereill, yn amgylchoedd ereill y dref. Ymgyfyd Cader Idris a'i thrumau ar un llaw iddi, tra y mae palasau enwog Hengwrt, Nannau, Caerynwch, Bronygadair, Brynadda,