Ond i mi yr oedd fel cip ar ardd Eden yr henfyd: hoffaswn dreulio blynyddoedd i astudio pob pren deiliog, a gweled bys y Lluniwr yn nodi'r boncyff ar ddechren pob blwyddyn newydd, ac i geisio deall rhai o'r miloedd ymlusgiaid sy'n llechu mor ddiddos dan ddail a daear, pob un yn ol ei reddf, a phob un yn gwneud ei waith yn ol archiad dwyfol. Dyma le i ddysgu iaith yr adar; faint yw rhif y côr tybed, a phryd y cynhaliant eu cymanía ganu? Mae'n sicr mai dyma'r deyrnas brysuraf yn ein byd; mae'r deiliaid fel dirif dywod y môr, a phob un, o'r gwybedyn a'r genwair distadlaf hyd at y condor a'r carw gwyllt ar y pigynnau gwynion, yn gampwaith y Lluniwr, ac yn anesboniadwy i wyddonwyr mwyaf y byd; maent yn gallu esbonio popeth ond bywyd, ac ysgatfydd bywyd yw'r goedwig i gyd; ord bu raid i mi deithio i'r Andes i sylweddoli aruthredd y gwirionedd hwn.
Yr oeddwn wedi arfer rhoi'm clust ar y ddaear i wrando am swn ceffyl yn dod o bell, ond ni thybiais ei bod yn bosibl clywed y gweithwyr diwyd sydd yng nghrombil yr hen ddaear; ond bum yn gwrando ar gannoedd o honynt wrth ddisgwyl am y wawr yng nghoedwig yr Andes, dyma gyfaredd! mi gredaf yn y Tylwyth Teg tra byddaf byw bellach; yr oedd yma filoedd o'm cwmpas drwy'r nos, yn cyniwair ac yn gwau, ac yn tyrchu ac yn chwareu, ac yn siarad wrth fodd eu calon, a minnau yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn gwneud darganfyddiadau newydd bob munud; ac fel pe na fuasai'r ddrama danddaearol yma yn ddigon i swynhudo dyn, dechreuodd un arall yn y mwswgl a'r dail sy'n gorchuddio y wlad ryfedd ac ofnadwy hon. Ar y cyntaf brawychwyd fi'n ddifrifol;