o ddarllen natur? Buasai'n well gennyf golli pob llyfr ar fy elw na cholli'r adgof am fy noson yng nghoedwig yr Andes.
Ond er mor gywrain a dyddorol yr olygfa, yr oedd blinder a newyn yn dechreu cael y llaw drechaf arnaf, a gorweddwn eilwaith er ceisio anghofio'm gofidiau mewn cwsg, ond er cau'm llygaid yn dyn, a phenderfynu peidio eu hagor, chwarddai'r lloer a'r ser am fy mhen, gan wybod mai hwy oedd y meistri hyd doriad gwawr; amhosibl ydoedd cau amrant a'r fath ddarlun i syllu arno. Nid gweld y ffurfafen yn un darn mawr serennog yr oeddwn, ond cannoedd o fân bictiyrau mor berffaith a phur ag y gallasai llaw'r Arlunydd Mawr eu gwneud, a phob un wedi ei fframio â mân-ddail ariannaidd. Ond wrth syllu fel hyn rhwng cwsg ac effro ar oriel gelf y nef, yn ddistaw-gyfrin, bron yn ddiarwybod, diflannodd y naill ddarlun ar ol y llall, disgynnodd y tywyllwch a'r distaw- rwydd llethol hwnnw sy'n dod dros ein byd cyn torri o'r wawr yn y Dwyrain pell, pan fo natur i gyd fel pe'n gorffwys a huno ennyd. Ond O! mor ogoneddus y deffro, onide? Ni allaf beidio meddwl mai fel hyn y dylem ninnau ddeffro bob bore pe wedi byw yn deilwng.
Nid wyf yn mynd i geisio dweyd wrth neb sut y torrodd y wawr drwy'r ddeiliog wê wrth fy mhen, ac y trowyd y goedwig yn un enfys fendigedig, nes yr oedd pob llygad yn dallu, a phob pen yn gostwng mewn addoliad mud, a phob calon yn teimlo mai da oedd cael bod yno, ac yn gwneud cyfamod newydd yng nghysegredigrwydd y foment. Ond nid oedd y cyfeillion asgellog yn plygu pen: