foreuol gân ynghanol perllannau a gerddi dihafal Mexico gyfoethog.
Aflonyddodd adar yr Andes ar y cysgadwyr o'm cwm— pas, a rhwbient lygaid o un i un, gan wincio'n gysglyd ym mhelydrau'r haul oedd eisoes yn dechreu treiddio drwy'r deilios. Yr oedd y tân yn farwor llonydd erbyn hyn, a min awel y bore yn dechreu gwneud inni sgrwtian, a da oedd cael symud i ystwytho'r cymalau a chyflymu'r gwaed. Yn reddfol cyrchai pawb at ei geffyl gan ddechreu breuddwydio am ben y daith a thamaid i dorri newyn. Ond—dyma fonllef orfoleddus oddiwrth un o'r pererinion; pawb yn mynd ar râs wyllt i glywed y newydd, a dyna lle'r oedd un o'r cwmni ar ei bedwar yng nghanol gwely o fefus addfed! a ninnau wedi bod yn newynnu drwy'r nos! 'Doedd ryfedd fod yr hen geffylau yn gweryru, ond chwareu teg iddynt, gwnaethant eu goreu i'n hysbysu o'r newyddion da. Ni allaf byth feddwl am y boreufwyd hwnnw heb gael ffit o chwerthin iachus: 'rwy'n siwr y rhoisai Punch lawer am ddarlun o'r olygfa,—pawb yn gorwedd ar ei hyd cyhyd, bron o'r golwg yn y dail, ac wrthi à holl egni ei fysedd yn tynnu mefus, ac yn en bwyta lawn mor egniol, a phawb cyn ddistawed â llygod mewn cae gwenith. Brecwast ardderchog oedd honno; mae'n siwr gen i mai rhywbeth tebyg a fyddai Efa yn gael yng Ngardd Eden er's llawer dydd.
Dalar oedd y cyntaf i wacddi "Digon!" a chychwyn am ei geffyl, a bu raid i ninnau ddilyn heb ond prin dorri awch ein newyn. Ond yr oedd yr amgylchiad difyrrus, hapus, wedi codi ein hysbrydoedd i'r uchelfannau, a geriem ein