Aeth rhyw ochenaid o ddiolch drwy'r cwmni distaw pan ddechreuodd y gwlaw dywallt, a theimlem fel pe wedi dadebru o ganol rhyw freuddwyd cymysglyd. Yr oedd sirioldeb yr aelwyd yn dderbyniol iawn wedi'r fath gynhyrfiadau. Y mwyaf didaro ynghanol yr elfennau oedd yr hen gi hela orweddai ar ei hyd cyhyd o flaen y tân, yn chwyrnu'n braf, wedi cael y gwres a'r noddfa glyd i gyd. iddo ei hun am ysbaid awr, ac yr oedd arno flys dangos ei ddannedd pan drespaswyd ar ei etifeddiaeth; ond hawdd fu ei ddenu â chunog o laeth.
Er ei bod yn hwyr o'r nos, a phawb yn flinedig, nid oedd gorffwys i fod heb dalu diolch a gofyn nodded. Yr oedd naws a pherarogledd y blodau ar y ddyledswydd deuluaidd y noson honno: yr oeddym wedi bod ar drothwy yr anweledig, a miwsig y Llys wedi ein gwefreiddio a'n hysbrydoli.
Mae gan bawb o honom ryw nôd mewn oes, a rhyw gysegrfan i fynd iddo mewn adgof pan gaffer egwyl ynghanol corwynt bywyd. Ni allai neb o honom ddweyd dim am y ddyledswydd y noson honno,-dim ond teimlo, a chofio, a thrysori.
Agorem y ffenestri a'r drysau led y pen i oeri ac ireiddio wedi cymaint gwres: a buan y daeth cwsg i daenu ei fantell yn dirion dros y rhan fwyaf o honom. 'Doedd ryfedd fod gwrid y rhos ar ruddiau'r plant tra'n cael anadlu awyr iachus y mynydd drwy'r nos, canys nid oes eisieu clo na chlicied ar ddrysau a ffenestri bythynnod yr Andes. Ca'r sêr ddod i hofran a gwylio wrth ben pob cwrlid, ac â'r lloer ar daith ymchwiliadol drwy'r ystafelloedd er cael gorffwys ar wyneb ei hanwylyn, a