![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0f/Dringo%27r_Andes_%28page_127_crop%29.jpg/500px-Dringo%27r_Andes_%28page_127_crop%29.jpg)
PENNOD XIV.
"ADIOS "
ID wyf yn credu pe cawswn fyw i oed
Methuselah y gwelswn fore mwy gogoneddus
nâ'r bore olaf hwnnw ynghanol yr Andes:
rhyw ffarwel dywysogaidd roddodd yr
hen fynyddoedd i ni. Nid oedd y mellt.
wedi llychwino plufyn o'r eira gwyn, na'r
taranau wedi dymchwel yr un teyrn
oddiar ei orsedd. Canu a dawnsio a chwerthin
wnae natur drwy'r bore, a'r haul yn gweru'n foddhaus
wrth weled y plant mor ddedwydd. Credaf fod
nwyfiant yr awyrgylch wedi mynd i draed yr hen
geffylau hefyd-'doedd dim dichon dal yr un o honynt,
er carlamu a dwrdio a chwysu. 'Welsoch chwi geffyl
castiog yn gwneud sport o'i feistr erioed? Byddai
yn anodd gennych ei alw yn greadur direswm ar ol
edrych arno am ryw bum' munud yn mynd drwy ei
Gremares
mares ymdumiau a'i branciau, ac yn drysu pob cynllun o'ch
fullof danchis