Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwladgarwyr, ac mae angen mawr am danynt, ond byddaf yn rhyw ddistaw gredu mai dyngarwyr yw angen mwyaf ein byd.

Gardd fechen yw'r Fro Hydref, wedi ei phlannu yn eithafoedd Deheudir Amercia, ac ynddi gannoedd o blanhigion ieuainc yn distaw dyfu. Mae eisieu gwrteithio a dyfrhau, a thyfu cysgod rhag stormydd gaeaf a gwres yr haf; mae eisieu tocio'r brigau sy'n bygwth difa nerth ambell i bren; mae yno chwilod a heintiau yn cynllwyn am fywyd pob planhigyn, ac mae yno ladron ac ysbeilwyr yn cyniwair gylch yr ardd, ac yn sathru ambell flod'yn tlws, nad oedd ond dechreu agor ei lygad yn wylaidd a syn ar ryfeddodau'r byd. Mawr y gwaith sydd yn yr ardd, onide? A pha le mae'r garddwr a'i gynorthwywyr? Etyb yr eco, Pa le?

Y fath gyfle ardderchog sydd yma i arddwr medrus dyfu coed derw, a britho pob cwm drwy'r Andes, â chedyrn gewri'r ddaear; fe dyfent yn ogoneddus mewn daear mor doreithiog: a phan ddelai ambell storm i brofi eu nerth, ni wnai ond cwympo'r mês addfed, i'w gwasgar a'u gwreiddio o'r newydd.

Dyna ddylai plant yr Ardes fod ond iddynt gael meithriniad priodol. Pa le mae'r dyngarwyr ynte, a'r cenedlgarwyr hefyd, canys nid oes well Cymry na thlysach Cymraeg yn y byd någ yng nghymoedd yr Andes, a byddai'n werth i blant Cymru fynd yno i astudio'r iaith.

Melus oedd cael cwmni llanciau a gwyryfon mor hawddgar i'n cychwyn ar ein taith tuag adre: yr oedd