DRINGO'R ANDES.
—————————————
—————————————
PENNOD I
CYN Y DILUW
CHYDIG dros bedair blynedd yn ol, brithid colofnau newydduro: Cymru à lo speckle
hanes y llifogydd dinistriol ym Mhatagonia
bell. Nid pawb sy'n gwybod, hwyrach,
mor agos yw'r cysylltiad rhwng Cymru
a Phatagonia; ond yn un o ddyffrynnoedd
ffrwythlon y wlad eang honno mae dros dair mil o Gymry
wedi sefydlu Gwladfa Gymreig ar lan yr afon Camwy; ac
hyd nes y daeth y dwir diluw yr oedd y dyffryn tawel yn
ddarlun gwych o'r hyn allai diwydrwydd a dyfais y Cymro
ei gyflawni mewn estron fro. A rhyw ymgais carbwl yw cy
hyn o bennod i geisio desgrifio y Dyffryn cyn ac wedi'r
diluw.
Fel un o blant cynhenid y wlad, ac fel un a fu yn bed llygad-dyst o'r holl ddinistr a'r trueni, diau fod i mi gymwysderau arbennig, ond yn anffortunus mae eisieu cymwysderau ereill i ddesgrifio stormydd bywyd.