Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn pylu tipyn ar fin ein hiraeth, ac yn taflu pelydryn o sirioldeb ar brudd—der y ffarwel; canys ffarwelio fu raid, or pob esgus i aros eto ennyd; yr oedd gennym daith hir o'n blaenau, ac wedi gwneud amryw gynlluniau sut i rannu'r dydd, fel y gallem wibio heibio ambell fwthyn unig, ac hefyd dreio ein llaw ar olchi aur yn nant Rhyfon! 'Does neb a wyr faint o gestyll adeiladwyd ar gorn yr aur hwnnw,—ieuainc oeddym i gyd, cofier, a'r byd yn wyn a'r aur yn felyn, ac os oedd ein cestyll yn gain, a'n milwyr yn ddynol a dewr, nid ofer i gyd y breuddwydio, er casglu graean yn lle aur.

Gorymdeithiem drwy'r Fro gan "chwifio'r cadach gwyn" a sychu deigryn ar-yn-ail. Dringem y llethr yn ddigon distaw, ac wedi cyrraedd pen y bryn, man y caffem yr olwg olaf ar Fro Hydref, gwelem gyfeillion ymhob cyfeiriad, ar bennau'r tai, yn dal i chwifio baner hedd a thangnefedd.

Adios, yr hen fynyddoedd gogoneddus: gwyliwch y plant sy'n nythu wrth eich traed.