au ffyddlon, ac yna i ffwrdd am einioes, a'r dwfr diluw fel mynyddau o'u hôl.
Nid hanes un person nac un teulu sydd yma, ond hanes tair mil, yn wŷr, gwragedd, a phlant bychain. Ac i ba le yr oeddynt yn mynd, a sut le oedd eu lloches ? Dim ond y bryniau moelion graeanog gylchynnent y dyffryn, lle nad oedd cysgod coeden na gwrych,—a chofiwch mai nos oedd hi, a'r gwlaw yn dal i dywallt yn ddidosturi ar y ffoaduriaid dychrynedig.
Yr oedd miloedd o anifeiliaid ar y bryniau erbyn hyn hefyd, a phob un yn dweyd ei gwyn yn ei iaith ei hun. Ond uwchlaw'r cyfan clywid swn y dinistrydd; rhuai fel llew ysglyfaethus ar ei daith drwy'r goedwig. Clywid y tai yn syrthio o un i un, a phob calon yn gofyn yn ei hing, tybed ai cartref clyd ei pherchen oedd hwnna, ac yn cofio am y mil myrdd creiriau teuluaidd nas gwelid byth mwy.
Ond, drwy drugaredd, nid oedd llawer o amser na hamdden i feddwl; yr oedd yn rhaid trefnu rhyw gysgod i'r gwragedd a'r plant. Ac mewn llawer dull a modd y gwnaed hynny ar hyd a lled y dyffryn yn ystod misoedd y diluw, yn ddigon amrywiol i ysgrifennu llyfr arnynt. Credaf fod trigolion gwledydd newyddion yn fwy cyflym eu hamgyffrediad gyda phethau y bywyd beunyddiol;hes dyfeisiant bob math o bethau i ddod allan o ddyryswch neu benbleth: mae'r lanci dyfeisgar wedi profi hynny y distraction tuhwnt i amheuaeth erbyn heddyw.
Wele'r Wladfa bellach yn pabellu ar ben y bryniau, ac yn disgwyl am y wawr, ac ni fu gwylwyr mwy pryderus ar gaerau unrhyw wersyllfa erioed. Yr oeddynt yn dyheu