Ffoasai ugeiniau o deuluoedd i'r Gaiman gan feddwl fod pentref ar y llethr felly yn berffaith ddiogel, a dyna oedd syniad y pentrefwyr hefyd, canys nid oeddynt yn cyffro fawr i symud, ond yn gwneud eu goreu i gynorthwyo eu cyfeillion anffodus.
Ond ar hanner nos y bu gwaedd!—Wele mae'r dyfroedd yn dyfod! a bu'r dychryn a'r rhuthr mor fawr nes yr aeth yn ddyryswch difrifol, pawb yn ffoi heb geisio achub dim; ond cofiwch mor gul oedd y dyffryn fan hyn, a'r dwr wedi bod yn cronni am ddyddiau, a phan dorrodd, yr oedd fel y Bay of Biscay mewn storm. Cyn pen hanner awr nid oedd ond rhyw hanner dwsin o dai yn sefyll yn y pentref i gyd. Ysgubfa ofnadwy oedd honno, ond cawn weled ei gwaith eto wrth fyned ar i lawr.
Oni bae fod acen y Gymraeg i'w chlywed wrth deithio ar hyd y bryniau, gallesid tybio fod llwythi lawer o hen frodorion y wlad wedi dod ar ymweliad ac yn pabellu ar yr ucheldiroedd, canys dyna oedd i'w weled ar hyd y triugain milltir, pebyll o bob lliw a llun—gwagenni a cherbydau, corlarrau wedi eu gwneud o ddrain y peith, prairie lle 'roedd y merched a'r plant yn godro'r da, a'r dynion yn dal eu ceffylau ac yn corlarru'r defaid y nos. Canys nid pobl i blethu dwylaw mewn anobaith a dweyd fod y byd ar ben yw Cymry Patagonia, ond pobl wedi wynebu llawer storm, ac wedi dysgu gwreud y goreu o'r. gwaethaf.
Wedi teithio ryw 30 milltir ar i lawr o ben uchaf y dyffryn, deuir i Drelew, prif bentref masnachol y Gamwy, a therfyn ein rheilffordd fechan; a dyna'r unig fan drwy y dyffryn a achubwyd rhag y dinistr, a thrugaredd fawr oedd hynny.