Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hadeiladu ar lan yr afon, yr oedd perllannau a gerddi hyfryd o'i chylch ymhob man. Cyrhaeddodd y dwr i Rawson tua'r 22ain o Orffennaf; yr oedd wedi cael wythnos o amser i gasglu ei nerthoedd ynghyd, a rhuthrodd ar y dref fel bwystfil theibus ar ci ysglyfaeth. Yr oedd yn noson ystormus, ddrycinog; chwythai'r gwynt yn ei anterth, dylifai'r gwlaw yn ddi- drugaredd, rhuai'r dwr fel taranau, clywid swn y tai yn cwympo o un i un fel swn magnelau lawer, fel erbyn toriad gwawr nid oedd mur yn sefyll ar yr holl wastadedd, od dim ond temenni o falurion.

Gan fod yn y dref lawer o fásnachdai, bu'r golled yn ddinistriol iawn i lawer Eidalwr diwyd, canys un prysur iawn yw'r Italian; mae fyny fel ehedydd yn y bore, a phob amser yn canu, ac fel y Cymro, mae ei gân yn wastad yn y cywair lleddí. A pha ryfedd onide? Mor helbulus a thrist yw ei hanes, a chymaint o filoedd o honynt sy'n alltudion o'u gwlad, a'u hiraeth yn angherddol am gael dychwel eto cyn delo'r alwad olaf. Dyhead ac uchelgais pob Eidalwr yw crynhoi digon o arian i fynd yn ol i/o collect Italia i dreulio dyddiau henaint, ac fe synnech gyn lleied sydd yn ei foddloni, canys gall Eidalwr fyw yn hapus a chysurus lle y byddai Cymro neu Sais farw o newyn. Nid yw byth yn digalonni: plentyn yr haul ydyw, ac y mae gwenau'r haul yn wastad er ei wyneb.

Melus cael dweyd, yn swn y storm fel hyn, na ddigalonnodd Cymry'r Gamwy ychwaith, er mor anobeithiol yr olygfa o ben y bryniau moelion. Wedi i'r hen afon ymbwyllo, ac i'r ffurfafen lasu, ac i'r dyffryn adgyfodi o'i ddyfrllyd fedd, yr oedd y Wladfa fel cyniweirfa morgrug.