Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.
WEDI'R DILUW
WYRACH nad anyddorol i'r darllenwyr
fyddai cael clywed sut yr ysgrifennwyd yr
hyn sy'n dilyn, ac o dan ba amgylchiadau.
Hanes pleserdaith i wlad y mynyddoedd
ydyw, myfi yn ieuanc a hoew, ac heb
wybod fawr ond am ochr euraidd bywyd,
yn cychwyn fy nhaith i'r Andes mewn gwynfyd, gan
freuddwydio a dychmygu am y rhyfeddodau oedd
o fy mlaen; yn treulio fy noson olaf dan gronglwyd roof
yr hen gartref urddasol wnaed mor gain a thlws drwy
lafur cariad tad a mam,-rhu'r mor yn dod gyda'r
el awel gan gasglu miwsig rhwng aflonydd ddail yr aethnen, oplar,
murmur yr hen afon a'm suodd i gysgu er yn blentyn,
heno eto'n dweyd yr un stori felus.