aidd yn sglodion ar hyd y dyffryn; y caeau destlus lle gynt yr ymborthai'r dacedd mewn llawnder yn rhychau ac agennau hyllig, a'r brasdir du dyfasai wenith goreu'r byd yn gwreud mân fynyddoedd yng ngwaelod y Werydd, a dim ond y clai melynwyn, gyda gweddillion gwreiddiau y tyfiant rhonc fuasai gynt yn glasu'r dyffryn.
Wedi misoedd o ddisgwyl am ddaear sych a gwenau haul Gwanwyn, daeth yn amser i bawb ymysgwyd o'r tristyd a'r dychryn, a cheisio codi bwthyn unos o'r gweddillion adawyd gan y dyfroedd; minnau fel un o'r llu, aethum gyda'r gweithwyr i'w cynorthwyo yn ol fy rgellu, a chan rad cedd wiw colli amser i deithio ol a blaen bob nos tua'r bryniau, codwyd caban coed i Eluned gael llechu yno dros nos, a gweini ar y gweithwyr liw dydd. Byddant hwy yn flinedig ar fachlud haul wedi bod mor ddiwyd drwy wres y dydd, a thaena cwsg ei martell yn dyner trostynt hyd doriad gwawr drannoeth.
Llechwn i yn fy nghaban coed, a chwibianai'r gwynt ei leddf hwiangerdd drwy'r tyllau a'r rhigolau oedd yn yr estyll. Yn y gongl fwyaf cysgodol yr oedd gennyf ford gron a channwyll wêr mewn canhwyllbren welsai ddyddiau gwell. Yr oedd hen foncyff helyg yn gwneud eisteddle burion; fy unig ofid oedd fod y gwynt braidd yn hyf ar fy nhipyn cannwyll, ac yn fy ngorfodi i wastraffu matches, a rheiny'n brin ac yn anawdd eu cael.
Nid yw'r darlun yn ddeniadol iawn, a yw, i oes sydd yn glythu mewn moethau? Ond treuliais rai o oriau dedwyddaf fy mywyd yn y gell gyfyng honno-oriau euraidd wnaeth i mi anghofio'r tristyd a'r trueni, y tlodi a'r caledi oedd o fy mlaen. Diolch nad oes gell all gadw enaid,—