Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond pan yn meddwl am y testyn sy genryf i draethu arno, fel y dyhea fy enaid am iaith a thalent wneud cyfiawnder âg ef! Eithr hyd nes y daw rhyw freuddwydiwr i gerdded yr un llwybrau a mi ac i ddanfon ei weledigaethau fel cenhadon y wawr, rhaid i Gymry ieuainc Gwalia geisio ymfoddloni ar ddarlun carbwl a thruenus o amherffaith.

Ond ofni yr oeddwn y buasai'r Andes wedi ymwareiddio llawer cyn y delai'r Gweledydd, ac yna collasid am byth hanes yr hen fynyddoedd godidog fel yr oeddynt yn y dechreuad. Y syniad yna yn unig a'm synbylodd i gychwyn ar orchwyl mor anhraethol uwchlaw'm galluoedd, y dyhead angherddol am i Gymru gael rhan, pe ond gronyn eiddil, o'r gwynfyd deimlais i wrth deithio'r anialdiroedd distaw, glân, a gwylio'r haul yn gwisgo'r peithdir â mantell o dân, a'r lloer yn ei goroni âg arian; a chael syllu ar fynyddoedd a rhaeadrau a llynnoedd a choedwigoedd na fu nemawr i lygad dynol yn gorffwys arnynt erioed.

Mi debygaf fod mannau fel hyn yn brin yn ein byd erbyn heddyw. Mae cenhedloedd y ddaear yn cyniwair ac yn dylifo i bob mangre ddistaw, gysegredig, gan k chwalu'r tlysni a'r swyn â dwylaw halog y byd; mae'r blodyn gwyllt fu'n gwasgar ei berarogl ar allor ei Luniwr, yn colli ei wenau ac yn marw o dor calon am ei lu anwyliaid sy'n sathría dan draed; mae'r ednod amryliw eu plu fu'n ymbincio yng nglesni'r dwr, ac yn hyfforddi eu rhai bychain yn ddiofn, a'r côr asgellog fu'n llanw'r coedwigoedd â'u mawl—maent oll yn ffoi mewn dychryn pan