Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein bod yn croesi. Erbyn i'r cwch gyrraedd atom yr oedd hanner ei lond o ddwfr, a dyna lle bucm am un ysbaid yn prysur ddihysbyddu, ac yna gosodwyd ri fel rhes o ddefaid, pob un ar ganol y cwch, gyda gorchymyn pendant i beidio symud, un dyn ym mhen ol y cwch gyda'i rwyf, ac un arall yn y pen blaen gyda'i fwced, a dyna ni'n cychwyn. Sut oeddym yn teimlo? Wel, ardderchog; pob gewyn ar ei eithaf dŷn, a phob llygad yn perlio; 'chawsom ni ddim trochfa yn y diwedd, pawb yn glanio'n ddiddos ac yn llawn hwyl a chywreinrwydd.

Ni ddifethaf y bwthyn unig drwy geisio rhoddi desgrifiad o hono. Y peth cyntaf a dynnodd fy sylw oedd helygen werdd yn tyfu y tu ol i'r tŷ, gan estyn ei breichiau wylofus hyd at y trothwy, ac yno yr oedd mainc wreiddiol wedi ei gosod o dan ei chysgod pleserus, ac fe wyddwn yn reddfol mai cornel oedd hwn i'w halogi â mŵg y bibell swynhudol. Collodd yr helygen ei holl farddoniaeth, ac euthum dros y trothwy i ferwi'r tegell, a dyna de bythgofiadwy oedd hwnnw, gyda'r bwrdd a'r llestri mwyaf gwreiddiol allai calon ddynol ddychmygu.

Wrth ganu'n iach â'n cyfaill newydd, yr oedd arnaf fi eisieu rhoddi diolch sylweddol iddo; ond dywedai un o'r cwmni wrthyf mai dyna'r sarhad mwyaf allwn roddi arno; pleser a balchter bugeiliaid y paith yw cadw tŷ agored i bawb a ddel—pennawd i'w gofio wrth basio.

Yr oedd yn nos arnom yn cyrraedd y gwersyll, ac er ein bod wedi blino, eto, yr oedd y daith wedi bod yn ddyddorol a hwyliog. Chwith iawn oedd dod yn ol i'r te drain a'r sychter ar ol bod yn mwynhau ireidd-der glan-