yr helfa wedi bod yn ofnadwy, a thriniaeth y milwyr o'r carcharorion mor anhraethol greulon nes y taflai'r hen Indiaid eu hunain wrth y cannoedd o bennau'r mynyddoedd i'r llynnoedd a'r afonydd islaw yn hytrach na syrthio i ddwylaw gelynion mor arswydus. Yr oedd yr ychydig gannoedd lwyddasent i osgoi'r milwyr yn llochesau'r mynyddoedd wedi ymwallgofi gan ofn, a phob cynneddf yn eiddo llwyr i Satan, a dim ond un dyhead yn llanw pob calon, sef dial gwaed eu hanwyliaid. A pha Gymro all eu beio?
Ar un o'u teithiau cwrddodd y Gwladfawyr ieuainc â masnachwr Eidalaidd, yr hwn, heblaw gwerthu iddynt ychydig ddillad (milwrol) a'u perswadiodd i droi'n ol gynted y gallent, gan eu sicrhau nad oedd eu bywydau yn ddiogel funud awr: fod yr hen frodorion wedi eu herlid i wallgofrwydd, ac wedi ymdynghedu i ladd pob dyn gwyn a gyfarfyddent.
Dyrysodd y newydd yma holl gynlluniau a breuddwydion y llanciau; siomedigaeth chwerw oedd gorfod troi tuag adref ar gyrrau gwlad yr addewid fel pe tae; onde gwyddent hwy beth oedd effaith diod y dyn gwyn ar yr hen frodorion syml, ac y byddai eu meddwi ar waed yn filwaith mwy trychinebus. Felly nid gwiw oedd diystyrru rhybudd y masnachwr. Teithiasant yn ddiogel ddydd a nos, gan osgoi a thorri llwybrau fel na ellid eu dilyn. Daethant felly, yn dra blinedig, a'u harfau yn glwm ar y pynnau, hyd at y dyffryn y syllwn arno oddi tros yr afon—y diwrnod yn wyntog a llychwinog iawn; ond wele! fel corwynt, clywent waedd anaearol mintai o frodorion ar eu gwarthaf, llwch ceffylau y rhai gymylai am danynt,