ysbryd drwg o hono, drwy eu gwahanol seremoniau, ond gwywo 'roedd yr hen gyfaill, a'm tad yn ceisio egluro iddo, mor dyner a syml ag y gallai, nad ocdd eisieu iddo ofni marw, mai dim ond taith fêr oedd tros yr afon: a dau gwestiwn olaf yr hen frodor oedd,—A fuasai yno Gymry, ac a fuasai yno gyflawnder o game. Nefoedd ffrwythlon, Gymreig,—dyna nefoedd Indiaid Patagonia heddyw.
Ni cheisiodd Cymry'r Gamwy broselytio na gwareiddio yr Indiaid, ond estynasant iddynt law brawdgarwch, a buont yn eiriol trostynt dro ar ol tro o flaen senedd y brifddinas, pan oedd trais a brad Hispeinig yn eu llethu, ac yn bygwth eu difodi'n gyfangwbl. Deallodd etifeddion y paith nad oedd y newydd—ddyfodwyr wedi dod i'w gwlad i'w hysbeilio na'u gorthrymu, ond i gyd-fyw mewn tangnefedd. Dysgodd yr Indiaid y Cymro i hela'n fedrus, a thrwy hynny achub y Wladfa rhag newyn lawer tro; bu'n ddyfal yn ei ddysgu i wneud pob math o gêr ceffylau o grwyn yr anifeiliaid gwylltion, fu mor werthfawr i'r sefydliad ieuanc ar ddechreu ei yrfa amaethyddol mewn. estron fro, mor bell o gyrraedd pob cyfleusderau.
Bu'r ddwy genedl yn marchnata'n ddiwyd am flynyddoedd plu, crwyn, a charpedau cynnes yr Indiaid yn. gyfnewid am fara maethlon y Cymry, etc. A buan y daeth yr hen frodorion i hoffi cwpaned o de a bara menyn Cymreig gystal â'r un Cymro yn y wlad. Ni fyddai'n beth diethr o gwbl gweled rhes o wynebau melynddu, astud, mewn capel ar y Sul, neu gwrdd llenyddol, neu 'steddfod; a phan fyddai cwrdd te a chlebran, byddai yr un croeso wrth y ford i'r hen frodorion a phawb arall.