Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plant bach yng ngwisg natur yn chwareu ac yn prancio gan ystwytho eu cymalau wedi'r daith hirfaith, a ninnau'r plant Cymreig yn cyd—chwareu mewn hwyl, heb freuddwydio am eiliad fod unrhyw wahaniaeth rhyngom ni a'n cymdeithion bychain melynddu. Ymhen blynyddoedd wed'yn, wedi croesi'r Werydd, a darllen syndod ac anghrediniaeth ar ambell wyneb Prydeinig wrth i mi ddweyd fy stori seml, y deallais gyntaf nad yr un oedd y du a'r gwyn! A'r hyn a barai fwyaf o ofid i'm meddwl ieuanc anwaraidd i oedd,—pwy oedd wedi creu y dyn du? Nid oeddwn wedi clywed son ond am un Crewr ac un dyn, ac er i mi ddod i Gymru oleuedig, yn y tywyllwch yr wyf o hyd. Onid yw'r bychan melynddu, dyfodd fel blodyn gwyllt yng nghoedwigoedd yr Andes, ac a gusanwyd filwaith gan belydrau llachar haul y nef, onid yw yntau hefyd yn y byd y bu cymaint dioddef er ei fwyn? Nid yw dyrus bynciau'r greadigaeth yn aflonyddu rhyw lawer arnaf, ond mae fy hyder yn gryf y caf weled miloedd o hen Indiaid Patagonia wedi croesi'r afon fawr yn ddiogel, i wlad lle nad oes na du na gwyn, dim ond praidd y nef ac un Bugail.

Mae personoliaeth yr Indiad yn ddyddorol iawn; mae yna ryw dawelwch a gorffwysdra yn ei wynebpryd, a'i lygaid ddyfnddwys fel pe'n adlewyrchu'r eangderau distaw; mae pob osgo o'r corff lluniaidd mor naturiol a diymdrech a'r glaswellt dyf wrth ei draed, ac y mae nerth a mawredd y mynyddoedd yn y corff talgryf, allt cydnerth, fel engraifft o ddynoliaeth iach, ddilyfethair; diau nad oes ei debyg ar gael heddyw.

Maent yn lanwaith eu harferion mor bell ag y caniata