Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel gwe'r copyn dros fynydd a dôl,—mor gul ac areglur ydynt, fel na all ond brodor eu dilyn.

Synfyfyria'r teithiwr ar lan afonydd dyfroedd ac yng nghesail y llynnoedd llonydd, gan freuddwydio am y cenedlaethau fu'n gwersyllu ar eu glannau, a'r miloedd anifeiliaid fu'n drachtio'r dyfroedd. Ord nid oes dim yn aros ond y mynyddoedd yn eu glâs a'u gwyn, a'r pampa diderfyn gyda'i laswellt fel tonnau'r môr, a'r gwynt Patagonaidd nad yw byth yn cysgu. Cymoedd ar ol cymoedd, peithdir ar ol peithdir, y Werydd yn y Dwyrain a'r Andes yn y Gorllewin, a rhyngddynt, drwy'r holl eangderau, nid oes un arwydd dynol ond y llwybrau cul sy'n prysur ddiflannu am byth, fel y mae gwareiddiad yn difa'r brodor.

Trist yw meddwl fod hen genhedloedd mor dawel, mor addfwyn, o gynheddfau cryfion, iach, gorff a meddwl, mor hen eu haniad, mor swynol eu hanes,—mor anhraethol drist yw meddwl fod y dyn gwyn gyda'i Gristionogaeth a'i ddiod ddamniol yn ysu ac yn difa fel tân pa le bynnag yr elo. A raid i'r pethau hyn fod? Dyna gwestiwn sydd wedi dwys—lithro drwy'm calon ganwaith wrth synfyfyrio ar hanes brodorion crwydrol pob gwlad; Indiaid Cochion Gogledd America, Maories swynhudol Awstralia, a hen gyfeillion fy mebyd innau yn Ne America. Nid yw'r Hispaenwr un gronyn gwaeth na'r Ianci a'r Sais yn hyn o beth; difa brodorion a chenhedloedd bychain yw pechod parod pob un o honynt, ond sut mae cysoni eu gweithrediadau â dysgeidiaeth y Testament Newydd sy bwnc rhy ddyrus i mi ei gyffwrdd. Ond mae'r trueni a'r tristyd wedi suddo i eigion fy nghalon filwaith wrth deithio'r peithdir glân, distaw, yn nhawelwch nos ac yng ngoleu gwyn y lloer.