
PENNOD IX.
TROED YR ORSEDD
ND wele Droed yr Orsedd. Un ystyr sydd
gan drigolion y Fro i'r enw, ond y mae
gennyf fi ddau. Gorsedd y Cwmwl-dyna
enw'r mynydd sydd y tu cefn i'r bwthyn.
Fe welir wrth hyn mai purion enw
roddwyd ar y cartref. Ond ni ddywedaf ail ystyr
yr enw nes cyflwyno y teulu mwyn. Dacw'r hen
gyfaill Dalar wedi ein gweled, ac yn prysuro i'n
croesawi. Yr oedd cymaint o amser er pan welswn ef a'i
deulu mân fel yr oedd yn rhaid i mi gael eu henwau oll yn
gyntaf dim, a iechyd i bob Cymro fyddai gwrando arnynt,
-Irfonwy, Brychan, Morgan, Sian, Ioan, Briallen, Madryn,
Eurgain,-a breintiwyd y plant nwyfus hyn â mam dyner,
ddwys, o'r enw Esther. Or.id yw pob calon Gymreig yn
dotio at dlysni y rhestr, a chyn mynd i orffwys y noson
gyntaf yn y Fro, yr oeddwn wedi dotio mwy ar y plant
hyd yn oed na'r enwau.