copa'r mynydd yn ymyl, ac O, yr oedd arnom eisieu sefyll ar ei ben-hwb fach ymlaen eto, ond "i lawr a chwi," meddai'r gwynt. Ac fel yna, o gam i gam, yn destyn gwawd i'r gwynt, y cyraeddasom y copa gwyn, ac y sangodd ein traed ar y fath balmant o ia nes mae arswyd lond fy nghalon y funud yma wrth son am dano.
Ceisiasom sefyll ar ein traed er mwyn cael cip ar yr olygfa ogoneddus o'n hamgylch; ond bu raid i bawb wneud hynny yn ei dro, a'r gweddill o honom i ddal fel bachau heiyrn yn yr edrychydd rhag cymeryd o hono adenydd a hedeg fry, fry, uwch y cymylau, lle y gwelem y Condor anferth, brenin yr awyr, fel llong dan lawn. hwyliau, yn hofran yn yr uchelderau aruthr, yn gwylio'r dyffryn am filltiroedd, mewn gobaith am ysglyfaeth, byw neu farw.
Mae'r Condor yn un o ryfeddodau'r byd ymysg yr ednod; prin y mae'n werth i mi ddweyd fod ei dryfesur yn un droedfedd ar bymtheg pan ar ei aden, oblegyd 'chred neb mo honof: mae'n swnio mor anhygoel. Ond i rywun sydd wedi ei weled yn ei gartref mynyddig, mae'n olygfa fythgofiadwy. Mae ei blu mor ddu â chysgod y mynydd yn y nos, a choler o fân-blu gylch ei wddf cyn wynned ag eira'r mynydd ar lawn lloer; mae ei lygaid fel ser y bore'n machlud, a gwrid y wawr o dan bob ael; ei big yn bedair modfedd o hyd, ac fel ellyn dau finiog.
Ei elyn mwyaf yw ei lythineb. Pan gaffo ysglyfaeth wrth ei fodd, fe wledda arno i'r fath raddau fel na all ei ddwy aden, er cryfed ydynt, godi'r corff glwth oddiar y ddaear, a dyna bron unig gyfle'r heliwr; unwaith yr esgynno'r Condor i'w gartref ar binaclau uchaf yr Andes,