ia (icicles) ymhob cyfeiriad; ond bu raid ffoi am einioes: hanner awr mewn awyrgylch mor eithafol oer fuasai'n ddigon i dawelu calonnau ieuainc, nwyfus, fel yr eiddom ni.
Ymlaen eto. Yr oedd rhai o'r cwmni yn dechreu teimlo yn lluddedig iawn, ac yn barod i droi'n ol, ond yr oedd addewid y caem olwg ar ddau lyn yn ymagor o'r afon, a bod ardderchowgrwydd yr olygfa yn werth aberthu llawer er ei fwyn. Yn araf iawn y teithiem yn awr o herwydd y gwres a'r blinder. Ymrannodd y cwmni yn ddau unwaith, y naill ran am fynd at lan y llyn, a'r llall am aros i ddisgwyl ei dyfodiad yn ol. Ond pan gyrhaeddodd y cwmni cyntaf at y llyn, gwelem y llall yn dyfod yn araf, araf. Nid oeddynt am eu trechu ychwaith, a chwareu teg iddynt hefyd; bu gennyf fwy o feddwl o honynt byth wed'yn.
Yr oedd y gwres yn llethol, ond yr oedd bywyd a nerth yn nwfr y llyn godidog. Yr oeddym yn methu peidio yfed. Ymolchem a chwareuem yn y llyn hyfryd, fel pe'n benderfynol o dderbyn iachusrwydd a phurdeb ei ddyfroedd. Nid oedd enw arno ar fap y byd, canys ni wyddai neb am ei fodolaeth, oddieithr y rhai eisteddent ar ei lan, a'r mynyddoedd mawr fel pe'n edrych yn syn ar y weledigaeth ryfedd. Deuai'r adar o'n cwmpas mewn cywreinrwydd, gan ddweyd cyfrinachau lawer wrthym. Y fath resyn na fuasem ddigon pur ein calon i'w deall, onide? "Llyn y Gwyryfon"—dyna oedd ei enw bedydd. Ni wn a gedwir yr enw pan ddel mawredd yr Andes yn enwog ymysg gwledydd y ddaear. Ond ni fydd yn ddienw byth mwy.