Tudalen:Dringo'r Andes.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y caban coed yn dawel a thywyll, ond buan y caed goleuni, ac yna, torrodd allan y fath fonllef of chwerthiniad iachus nes deffro pawb drwy'r tŷ. Y tywyll- wch a guddiasai lu o arwyddion y daith, ond dyma ni yn cael cip ar ein gilydd yn awr,-cwmni o Christy Minstrels wedi bod ar y spri wyllt, wynebau a dwylaw yn rhychau duon addurniadol, a dillad yn gyrbibion mân, pob un ynts ddrych byw o fwgan brain,-anghofiaf fi byth mo'r bar olygfa na'r hwyl. Diflannodd pob blinder yn y fonllef hout gyntaf, ac erbyn i ni ddechreu sobri a dofi, yr oedd Morgan yn canu grwndi'n siriol, a thinc y llestri yn llawenhau'r galon.