"Gwna fwy na hynny," ebai'r un oedd fel arweinydd arnynt, gan ddechreu ar y gwaith o'i gylymu. "Gall Tylwyth y Coed ddod yn sydyn a dy gipio oddiarnom pe cerddit yn rhydd, a dy ddwyn yn garcharor i'w llys."
"Tylwyth y Coed," ebai Hywel, "Yr wyf wedi cyfarfod un ohonynt eisioes."
Ac adroddodd iddynt yr hyn oll a glywsai ganddo. A hwythau, wrth wrando arno, un foment yn rhyfeddu, a'r foment nesaf yn gresynu ei fod wedi clywed y fath anwiredd am danynt, ac yn bygwth ymlid Tylwyth y Coed o'r goedwig am byth. Nid oedd Hywel yn rhoddi nemawr o wrandawiad i'r hyn ddywedent, yr oedd eu gwylio yn ei gylymu yn hawlio ei sylw bron i gyd, a thybiai gan mor chwim yr oeddynt yn gwneud y gwaith eu bod yn wir deilwng o'u teitl fel tylwyth. Yr oedd un yn cylymu ei raff am ei fraich dde, un arall am ei fraich chwith; rhai eraill ohonynt yn cylymu eu rhaffau am ei goesau, ac eraill yn cylymu eu rhaffau am ei fysedd. Yr oedd rhaff un arall wrth ruban ei gap, a rhaffau dau ohonynt wedi eu cydio wrth gareiau ei esgidiau. Ac fel yr oeddynt yn cychwyn, wedi gorffen y cylymu, chwarddent yn uchel, ac ofnai Hywel fod yna rhyw dinc amhersain yn eu lleisiau, oedd yn peri i'w chwerthin fod yn debig i grechwen, ac hefyd yn peri i gwestiwn pwysig ymwthio i'w feddwl,—"Pa un, tybed, yw y tylwyth goreu i'w ddilyn?" Ac ni fu raid iddo aros yn hir heb allu ei ateb. Tybiai pan yn edrych arnynt yn ei gylymu â rhaffau meinion o frwyn, na fuasai yn teimlo y nesaf peth i ddim oddi wrthynt, ond wedi cychwyn ar eu taith yr oedd y rhaffau mor boenus â phe wedi eu gwneud o rhyw fath o fetel, ac nis gallai lai nac ofni eu bod yn croes-dynnu yn fwriadol er peri poen iddo. A gofynnodd yn wylaidd a oedd yn bosibl iddynt lacio eu gafael yn y rhaffau. Ond pan wnaeth y cais y maent i gyd yn chwerthin, ac yna yn rhoddi un plwc gyda'i gilydd nes yr oedd Hywel, druan, yn llefain gan y loes dros y lle. A phenderfynodd wrth fynd ymlaen gyda hwy y byddai ei gais cyntaf y cais olaf hefyd. Toc, y mae yn cael cip-olwg ar y gamfa, draw, yn y pellter, ond yn lle dal i fynd tuag ati, y maent yn troi yn sydyn i gyfeiriad arall a'i redeg, a rhedeg y buont gyda y fath gyffymder fel mai gydag anhawster yr oedd Hywel yn gallu eu dilyn. Yna, wedi sefyll am ychydig, aethant ymlaen yn araf, mor araf nes gwneud i Hywel anobeithio cael myned o'r goedwig byth. Sylwodd hefyd fel yr oeddynt yn myned drwy y coed a'r gwrychoedd, fod yr adar i gyd yn tewi a chanu, a bod pob wiwer a gwningen yn yswatio ac yn ymguddio nes yr elent heibio. "Yn wir," ebai Hywel wrtho ei hunan, "yr wyf wedi methu wrth ddod i ganlyn y tylwyth yma. Fel yr wyf yn ymdroi yn eu cwmni, mae hyd yn oed eu lleisiau yn ddigon aflafar i godi poen yn fy mhen, ac yn torri hyd yn oed ar fiwsig y goedwig. Ond yr hyn sy'n peri mwyaf o boen i mi yw gwybod fy mod a fy nghefn at y gamfa."