XI. Tylwyth y Gwlith, Tylwyth y Ddwy Gadwen, a'r Tylwyth Teg
Pan yr oedd Tylwyth y ddwy gadwen yn llefaru y geiriau hyn, yr oedd Hywel a'r Tylwyth Chwim yn prysur nesau, er yn ddiarwybod iddynt en hunain, at goeden y rhaffau. Yn ffodus i Hywel, yr oedd y braw a'r pryder a'u meddianent yn peri iddynt fod yn fwy esgeulus ohono ef, a gadawsant iddo grwydro ychydig lathenni oddiwrthynt, ond nid yn hollol o'u golwg, ac yr oedd yntau wedi disgyblu ei lygaid a'i ysgogiadau i'r fath raddau nes gwneud ei hunan bron mor chwim â hwythau. Yn wir, llwyddai i gael y blaen arnynt heibio i bob trofa, gryfed oedd ei awydd am gael dod o hyd i'r rhaffau ei hunan. Ac o'r diwedd, wedi hir chwilio a chraffu, y foment yr aeth heibio rhyw dwmpath o ddrain, gwelai y rhaffau yn gorwedd yn daclus gyda'i gilydd wrth fôn y goeden. Safodd yn syth i fyny â'i galon yn curo fel calon aderyn bach newydd ei ddal, ac edrychodd yn ddyfal i gyfeiriad arall. Gyda'u craffter arferol, sylwodd y Tylwyth Chwim ar amrantiad arno yn syllu, a gofynnodd amryw ohonynt yn gynhyrfus,—"Beth weli di?" Ac ebe Hywel yr un mor gynhyrfus gan gyfeirio â'i fys,—"Beth sydd ar lawr wrth fôn y goeden acw?" Gan ei fod yn dalach na hwy, tybient ei fod yn gallu gweled rhywbeth oedd allan o'u golwg, ac ymaith â hwy ar draws ei gilydd at y goeden, a ffwrdd a Hywel am y rhaffau, gan eu cipio i fyny a'u gwthio i'w fynwes yn gynt nag y gellir ei ddisgrifio, ac yna fel saeth ar ôl y Tylwyth Chwim, gan gymryd arno gydofidio â hwy, pan ganfyddodd ei fod wedi gwneud camgymeriad, ac nad oedd hanes o'r rhaffau.
Erbyn hyn yr oedd y ddau anfonwyd gan Dylwyth y ddwy gadwen yn neshau at derfynau gwlad y Tylwyth Teg, ac ebe'r un oedd yn gwybod y ffordd yno,—"Yr ydym o fewn ychydig i gyrraedd pen ein siwrne. Wyt ti'n dechreu arogli arogl y blodau sy'n tyfu yng ngerddi y Tylwyth Teg?"
"Ydwyf, ac y mae cystal a gorffwys i mi."
"Ac i minnau. Ond nid yw hyn yn rhyfedd. Y mae y blodau cryfaf eu harogl wedi eu plannu ar fin y terfynau, er mwyn i'r rhai fydd yn teithio heibio gael teimlo yn llai blinedig. A diau eu bod yn cyrraedd eu hamcan. Y mae pob cam wyf fi yn ei roddi yn fy ngwneud yn fwy ysgafndroed."
"Felly finnau. Ond dyna sy'n rhyfedd, clywais nas gall y Tylwyth Chwim oddef yr arogl; ac na ddaw yr un ohonynt yn agos iddo. Gwnant bopeth er ei