Prawfddarllenwyd y dudalen hon
chlywed pwy oedd wedi ei anfon, ac i ba beth, ac hefyd pan adroddwyd wrthynt yr oll a glywodd eu cyfeillion yn y llys, rhoddodd y pryder le i ysgafnder a hoen. Ac nid y newydd lleiaf ei werth i Dylwyth y ddwy gadwen oedd clywed fod cadwen Caradog yn ddiogel, ei fod yntau yn y goedwig, a bod yn bosibl eto gael cyfle i brofi iddo gywirdeb ei dylwyth a'r Tylwyth Teg.