gynlluniau."
"Mae'n amlwg," ebai Hywel wrtho ei hunan, "nad ydynt yn fy nghredu, ond waeth i mi dewi. 'Rwyf yn llawer mwy hapus yn awr nac y bum ers pan wyf yn y goedwig."
Ar ôl ychydig yn rhagor o sibrwd gwelai ddau ohonynt yn mynd i'r un cyfeiriad ac y rhedodd y lleill, a chlywai un o'r rhai oedd yn aros yn dweyd,—"Goreu po gyntaf i Dylwyth y ddwy gadwen gael gwybod amdano."
"Iê'n wir," meddyliai Hywel, gan graffu i'r pellter a disgwyl yn ddyfal am weld y tusw dail yn dychwelyd. Ac yn wir, heb lawer o oedi, dacw y blodyn melyn i'r golwg, erbyn hyn wedi agor yn llawn, ac fel yr oeddynt yn dod yn nes, ac yn ddigon agos iddo adnabod yr un oedd yn ei gario, yn ei lawenydd neidiodd i fyny a rhedodd i'w gyfarfod gan waeddi,—"A ydych yn fy nghofio, 'rwyf wedi hiraethu llawer amdanoch."
Ac ebai yntau yr un mor llawen,—"O, Hywel, dyma ni wedi cyfarfod unwaith eto." Yr oedd y gweddill o'r tylwyth wedi sefyll ac yn edrych arnynt yn syn, ac ebai Tylwyth y ddwy gadwen,—"Tra y bydd Hywel a minnau yn siarad wrth y goeden acw, caiff y fintai oedd dan fy ngofal i adrodd i'r gweddill ohonoch hanes Hywel, ac egluro paham y mae gwisg y gelyn amdano."
A chychwynnodd â Hywel yn ei ddilyn i eistedd dan y goeden, lle y bu Hywel yn ymguddio. Ac yn y fan honno y mae'n cael yr hanes fel yr oedd Tylwyth y Coed wedi bod yn chwilio amdano, ac mor ofidus oeddynt eu bod wedi ymosod arno â'u tusw dail. "Ond," meddai, "nid oes gan neb hawl i wisgo y gadwen ond y ni, ac nid oedd gen innau hawl i'w rhoi i chwi heb ganiatâd y llys. Ond dyna'r unig ffordd oedd gen i i'ch helpu ar y pryd, ac ni feddyliais y buasech yn cyfarfod y tylwyth cyn i mi gael amser i'w hysbysu amdanoch. 'Roeddynt yn meddwl mai wedi eu lladrata yr oeddych er mwyn plesio y Tylwyth Chwim. Nid oes derfyn ar eu hystrywiau."
"Nac oes," ebai Hywel, "ac nid yw yn syn gennyf erbyn hyn eu bod wedi ymosod arnaf os oeddynt yn meddwl fy mod yn perthyn iddynt hwy." Yna dechreuodd adrodd ei hanes tra yn eu cwmni, ac fel yr oeddynt wedi ei drin, ac mor ffodus oedd iddynt anghofio y rhaffau a gorfod troi yn ôl i'r goedwig i chwilio amdanynt, ac fel yr oedd yntau wedi dod o hyd iddynt a'u cuddio yn ei fynwes. Pan ddechreuodd sôn am y rhaffau sylwodd fod ei gydymaith fel pe'n gweu drwyddo gan gyffro, ac nid oedd ond prin wedi crybwyll ei fod wedi eu cuddio, nad oedd ar ei draed ac yn gofyn,—"A ydynt yn eich mynwes yn awr?"
"Ydynt," ebai Hywel, gan roddi ei law arnynt, "dyma hwy."
"Dylwyth y Coed," ebai yntau ar uchaf ei lais, "deuwch yma."