XIII. Cartref Santa Clôs
Rhoddai Bob, fel y rhan fwyaf o blant pan y nesha y Nadolig, gryn lawer o le yn ei feddwl i Santa Clôs. Holai ei dad a'i fam yn ei gylch, a bu fwy nag unwaith mewn perygl o gael ei anfon i'w wely yn gynt na'r adeg arferol am ei fod yn ôl geiriau ei fam,—"ddigon a diflasu pawb yn holi ac yn holi o hyd ac o hyd." Syllai hefyd lawer i ffenestri siopau teganau y pentref, gan geisio penderfynu wrtho ei hunan pa degan a hoffai ef ei gael yn ei hosan fore'r Nadolig; neu pa nifer ohonynt tybed ellid eu gwthio i mewn iddi heb i'r hosan na'r teganau fod yn waeth. Meddyliai hefyd weithiau mor ddifyr fuasai cael golwg ar Santa Clôs wrth ei waith, a chael rhyw syniad am faint y sach oedd ar ei gefn a nifer y teganau o'i mewn. Ond er dyfalu llawer, a gofyn iddo ei hunan, ac i eraill, lu o gwestiynau amdano, nid oedd y syniad erioed wedi dod i'w feddwl i'w gymell i ofyn,—"Pa le y mae Santa Clôs yn byw," hyd nes yr aeth i chware ar ôl tê y prynhawn o fewn dau ddiwrnod i'r Nadolig at Benni Stryd y Cefn. Yr oedd yn ddiwrnod oer a gwlyb, ac oherwydd hynny galwodd mam Benni arnynt i'r tŷ, a rhoddodd ganiatâd iddynt i chware yn y gegin ar yr amod nad oeddynt i wneud twrw, nac i wneud llanast. Nid oeddynt yn ddieithr i'r amod yma, a dysgodd profiad hwy hefyd cyn hyn mai ffolineb fyddai ymddwyn yn ddiystyr o'r siars. Fel yr oedd Bob wedi cydnabod o'r blaen,—"nid mam pawb fasa yn gadael i blant chware yn thŷ hi," ac felly rhoddodd y ddau eu pennau ynghyd, a cheisiasant feddwl am y chwareuon â lleiaf o stwr yn perthyn iddynt. Ond er rhoddi prawf ar ddau neu dri, gwaith pur anodd oedd taro ar chware nad oedd rhyw gymaint o dwrf yn perthyn iddo, er cystal ydoedd Benni am ddyfeisio chware newydd. Ond pan oeddynt ar roddi i fyny yr ymdrech, a Bob yn dechreu meddwl y byddai'n well iddo fynd adref, dyna mam Benni yn cofio yn sydyn fod yn rhaid iddi fynd allan i neges. Yn bur ddiymdroi, y mae'n gwisgo ei chôt a'i het ac yn cychwyn. Gynted yr oedd trwy y drws,—"'Rwan," ebai Benni, "beth gawn ni chware?"
"'Dwn i ddim, meddwl di am rywbeth," ebai Bob.
Eisteddodd Benni ar y gadair siglo, ac wedi siglo ei hunan am ryw ddau eiliad neu dri, fel pe bai yn disgwyl i hynny fywiogi ei feddwl, meddai yn sydyn,—"Wyddost ti beth wnawn ni? Mi wnawn ni chware Santa Clôs. Mi af fi yn Santa Clôs, a mi gei ditha gysgu yn y setl, a hongian dy hosan wrth ei throed, a wedyn mi rof finna rywbeth yn dy hosan di. Mae gen mam ddigon o bapur a llinyn. A mi hongiwn ni y sanne ym mhob man gwna nhw sefyll, a mi