Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dros y Gamfa.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hunan mor debyg i Santa Clôs, meddai,—"Ond tyn amdanat, 'rwan, i ti gael swper a mynd i dy wely, ac ewch chitha adre, Bob, cyn iddi fynd yn dywyll ac i'ch mam fynd yn anesmwyth."

Ac wedi dweyd "Nos Da" wrth Benni, y mae Bob yn cychwyn am ei gartref, a'r cwestiwn ofynnodd i Benni,—"Ym mhle, tybed, mae Santa Clôs yn byw?" yn llanw ei feddwl ar hyd y ffordd.

"Pe gwyddwn i," meddai wrtho ei hunan, "mi awn yno bob cam i ofyn iddo roi presant yn hosan Benni." Toc daeth y syniad i'w feddwl y gallai ei fam fod yn gwybod, a pharodd hyn iddo gyflymu ei gamrau, a chyrhaeddyd y tŷ â'i wynt yn ei ddwrn. Wedi deall bod ei fam yn y gegin fach, y mae'n myned yn syth ati ac yn gofyn heb ragymadrodd o fath yn y byd,—"Mam, lle mae Santa Clôs yn byw?" Gan ei fod, fel y sylwyd eisoes, yn dueddol iawn i holi, a'i fam ar y pryd yn bur brysur ei goruchwylion, oherwydd agosrwydd y Nadolig yn amlhau, meddai wrtho,—"Paid a dechreu holi, da chdi. Bwyta dy swper; mae dy lefrith ar y pentan a'r frechdan ar y bwrdd. Brysia, tyn am dy draed, 'rwyt ti wedi bod allan rhy hwyr o lawer."

Ac ymaith â hi o'r gegin, a Bob yn galw ar ei hôl, gan ddechreu datod ei esgidiau:

"Lle mae tada?"

"Mae o yn y gegin ffrynt hefo dyn diarth, a chymer ofal nad ei di ddim yno."

"Dyna dro," ebai Bob wrtho ei hunan, "fedra i ddim gofyn i tada 'rwan lle mae Santa Clôs yn byw. Ond peth siwr ydi o, mae'n rhaid i mi gael gwybod gan rhywun yfory." Ac yng nghwmni y penderfyniad yna aeth i fyny y grisiau ac i'w wely, a'r penderfyniad fel pe'n gofalu cadw cwsg ymhell oddiwrtho. Ond pan glywodd ei dad a'i fam yn dod i fyny y grisiau, cauodd ei lygaid a chymerodd arno ei fod yn cysgu ers meityn. Nid oedd am i'w fam ei ddal yn effro, pan y deuai yn ol ei harfer i'w ystafell cyn noswylio. Nid oedd heb wybod mai canlyniad hynny fyddai cael ei ddwrdio yn dost neu ddos o ffisyg. Ond cyn gynted ag yr aeth ei fam i'w ystafell, ac y clywodd hi yn cau y drws ar ei hôl, y mae'n agor ei lygaid eto, a dyna'r un cwestiwn yn mynd ac yn dod trwy ei feddwl, nes ymhen hir a hwyr, wedi i bob sŵn yn y tŷ ddistewi, y mae'n gofyn yn uchel, heb yn wybod bron iddo ei hunan,—"Ym mhle, tybed, mae cartref Santa Clôs?"

Ac ar hynny dyna rhyw lais peraidd yn ateb o'r ochr arall i'r ffenestr,—"Agor y ffenest, mi gei wybod." Heb oedi cymaint ag eiliad i synnu, rhyfeddu, nac ofni, dacw Bob o'r gwely ac yn agor y ffenestr. Yr oedd y ffenestr ar ffurf drws, ac yn sefyll o'i blaen gwelai gerbyd bychan, isel, di-olwynion, yn cael ei dynnu gan garw mawr corniog. Hefyd, sylwodd fod