Yno wedi byddino eu gwŷr o bob ochr, dechreuodd yr ymladdfa greulonaf a fu, ond odid, erioed rhwng y Brytaniaid a'r Seison. Yno y gwelid y saethau yn chwifio o'r naill lu at y llall, megys cafod o gesair yn ymdyru pan fo gwynt gwrthwyneb yn eu gwthio draw ac yma. Och! pa fath olwg dosturus a fyddai gweled rhai â'u hymysgaroedd allan, a'r meirch rhyfel yn ymddyrysu ym mherfedd a choluddion ereill; ambell ddart yn nhwll y llygad, a'r dyn eto yn fyw, ac yn cynddeiriogi gan ei boen! ambell ddart yn y safn, y naill hanner y tu hyn, a'r hanner arall y tu draw i'r gwddf allan! ambell ddart yn y talcen, dros yr adfach, a'r ymenydd yn glafoerio allan! ambell ddart yn disgyn ar y llurig neu yr astalch pres, ac yn seinio yn rhonc, megys cloch! ac ambell ddart yn union at y galon, ac yn diboeni mewn mynyd. Ac am ben hyn yn lle meddygon i drin eu clwyfau, y meirch rhyfel yn ystrancio draw ac yma dros y clwyfus truain, yn briwo esgyrn rhai, yn llethu ereill, yn cernodio allan ymenydd rhai, a chalonau ac ymysgaroedd ereill.
Ďros chwech awr, nid oedd dim ond y distryw gwyllt o bob ochr, ond yn enwedig o du y Seison, megys y mae Gildas, ein cydwladwr, yr hwn a aned yn y flwyddyn hòno, yn sicrhau. Eu lluoedd, y waith hon, er eu hamled, a sathrwyd fel nad arosodd cymmaint a rhestr gyfan yn ddiglwyf; a'r maes a guddiwyd cyn dewed â chelaneddau'r meirw, fel mai nid gwaith ysgafn dros rai diwrnodau oedd eu claddu. Y frwydr hon a ymladdwyd yn y flwyddyn 495. Arthur, mab y brenin, a ymddygodd yma yn llawn calondid a medr i drin arfau. Am ba ham y mae beirdd yr oes hòno yn canu ei fawl mewn amryw bennillion ac odlau; ac ym mysg ereill, yr hen Daliesin Ben Beirdd fu'n canu:—
Ni bu dim rhyfel ar ol hyn dros amryw flynyddoedd; canys y Seison a dorwyd i'r llawr y waith hon; ac hyd y gall dyn farnu ni fuasent fyth yn abl i godi eu penau drachefn ym Mrydain, oni buasai anghydfod ac anras y Brytaniaid yn eu