wan, eto yr oedd eu hewyllys yn gref; canys y drwg ag oedd o fewn eu cyrhaedd, hyny a wnaeth y dynionach hyn, sef bwrw gwenwyn yn ddirgel i'r ffynnon, lle, er ys rhai dyddiau, yr arferai Uthr Bendragon yfed o honi; canys yr oedd efe ryw ychydig allan o hwyl, a chynghor ei feddygon oedd yfed dwfr ffynnon bob boreu. Ond efe, wr glew a chalonog ag oedd, a gollodd ei fywyd gan frad y Seison; yn lle ei dynerwch iddynt, yn arbed eu bywyd, hwynt—hwy, blant annwn, a wnaethant iddo ef anrheg o wenwyn marwol.
Y fath a hyn oedd y gydnabyddiaeth a ddangosodd y gwŷr bach; ac am y blaenoriaid, y rhai a ddiangasant o garchar i dir eu gwlad, mynegu draw ac yma a wnaethant pa fath wlad odidog a rhagorol oedd teyrnas Loegr, nad oedd eu gwlad eu hunain ddim mwy i'w chystadlu â hi nag yw ysgall i ros cochion. Mynegu hefyd a wnaethant pa annhrefn ac anghydfod oedd ym mysg y trigolion, ac nid oedd dim ammheu ganddynt oni byddent berchenogion ar y wlad, os caffent hwy rydd-did i godi digon o wŷr ac arfau tuag at hyny. Ac, megys pan fo carw wedi ei glwyfo, y bydd corgwn, a bytheuadgwn, a brain, a phïod, a barcutanod, bawb o un chwant. yn llygad—tynu tuag ato, eu gyd yn blysio am olwyth o gig carw; felly yma yr ymgynnullodd amryw bobl o dylwythau ereill, heb law y Seison,[1] nes eu bod yn llu mawr iawn, o gylch ugain mil o wŷr, eu gyd â'u hergyd i gael rhan o ysglyfaeth Ynys Brydain, yr hon, yn rhy fynych ar ei lles, oedd yn glwyfus gan anghydfod a rhy aml ymbleidio o'i mewn.
Ond erbyn eu dyfod hwy i dir Brydain, yr oedd yma wr, y brenin Arthur dan ei enw, yr hwn ni roddes iddynt ond ychydig hamdden i wledda ac ymdordynu. Ar y cyntaf, yn wir, pan nad oedd neb yn eu gwrthsefyll, y gwnaethant hafog echrydus o gylch y lle y tiriasant, ac oddi yno tua Llundain; do, y fath ddistryw a phan y bo eirias dân yn difa perth o eithin crin; y fath oedd eu cynddeiriogrwydd a'u creulonder! Yn y cyfamser, y brenin Arthur a gynnullodd ei wŷr, ac a ddanfonodd wŷs (megys yr oedd efe yn ben rheolwr y deyrnas) at Caron, Brenin Isgoed Celyddon, at Caswallon Lawhir, Brenin Gwynedd, at Meurig, Brenin Deheubarth, ac at Cattwr, larll Cerniw, yn gorchymmyn pob un o honynt i arfogi eu gwŷr, gan fod y gelynion, â llu cadarn, wedi dyfod i'r
- ↑ Juti, Angli, Sueci, Saxones, &c.