law, a elwid Caledfwlch; ac â'i law ei hun (heb law Ꭹ lladdfa a wnaeth ei farchogion) efe a wanodd dros dri chant o Seison ar hyny y lleill a ffoisant, ond nid cyn tywallt llawer iawn o waed o bob ochr. O gylch y flwyddyn 520 y bu hyn.
Erbyn hyn o amser, yr oedd goreuon Sermania (gwlad y Seison) wedi cael prawf o ddaioni a brasder Lloegr; a chymmaint oedd eu trachwant anghyfiawn i feddiannu y wlad odidog hon, fel y gwnaethant lawn fwriad yn un a chytûn na ddiffygient hwy fyth i ddyfod â gwŷr y tu draw i'r môr i oresgyn Lloegr wrth rym y cleddyf; ïe, pe gorfyddai arnynt gwbl arlloesi eu gwlad ou hun o bob copa walltog o'i mewn. O hyn y mae, na chafas y Brenin Arthur ond ychydig lonyddwch nac esmwythder yn holl amser ei deyrnasiad; canys o'r dechreu i'r diwedd, efe a ymladdodd ddeuddeg brwydr â'r Seison. Ac er hyn i gyd, er maint o ddyhirwyr a chigyddion gwaedlyd oedd ym ymwthio yma o du draw y môr, eto, oni buasai bradwyr gartref, ni roesai y brenin Arthur bin draen er eu holl ymgyrch; ond "teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun a anghyfanneddir." Felly yma, gan fod rhai yn haeru mai nid mab o briod oedd Arthur, y gwyrodd rhan fawr o'r deyrnas, ac eneinio câr iddo yn frenin o wnaethant, a elwid Medrod, yr hwn a fu chwerwach i Arthur na holl ruthrau ei elynion; canys heb law ei fradwriaeth yn erbyn y goron, a'i waith yn ymgoleddu y Seison, efe a gymmerth drwy drais, Gwenhwyfar y frenhines, ac a'i cadwodd yn wraig iddo ei hun. Dynion drwg, aflan, a chynhenus oedd yr hen Frytaniaid o hyd, gan mwyaf; a hwn yw un o'r "tri bradwyr Brydain; " y ddau arall ynt Afarwy, fab Lludd, yr hwn a fradychodd y deyrnas i Iul Caisar, a Gwrtheyrn, yr hwn gyntaf a wahoddodd y Seison drosodd.
Y mae llawer o ystorïau am Arthur, y rhai ynt yn ddilys ddigon ddim angen na hen chwedlau gwneuthur. Dywedir fod ymrafael ym mysg y Brytaniaid yng nghylch dewis brenin ar ol marw Uthr Bendragon, tad Arthur; ac i Fyrddin alw yng nghyd oreuon y deyrnas i Lundain, a gorchymmyn i'r offeiriaid weddïo Duw, ar deilyngu o hono ysbysu, drwy ryw arwydd, pwy oedd frenin teilwng Ynys Frydain; ac erbyn y boreu dranoeth, mewn careg fawr bedairochrog, y cafwyd yn ei chanol gyffelyb i eingion gof, ac yn yr eingion yr oedd cleddyf yn sefyll erbyn ei flaen, a llythyrenau euraid yn ysgrifenedig arno, nid amgen:—"Pwy bynag a dyn y cleddyf