Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Os dyn cynddeiriog a frath ddyn arall â'i ddannedd, a'i farw o'r brath, nis diwg cenedl yr ynfyd; canys o anian yr haint y colles efe ei enaid.

"O derfydd i ddyn brynu anifail gan arall, ac wedi ei brynu bod dannedd iddo yn eisieu, a mynu eu difwyn; cyfraith a ddywed, na ddiwygir; canys anaf eithr y croen yw; a pha le bynag ni thoro na chig na chroen, anaf eithr y croen yw.

"Sef yw mesobr[1] o caiff gwr foch yn ei goed, o'r pummed dydd cyn Gwyl Fihangel, hyd y pymthegfed dydd wedi calan Gauaf, lladded y degfed o honynt."

Cymmaint a hyn yn fyr o blegid cyfraith Hywel Dda.

Yn y flwyddyn 1108, y soddes rhan fawr o iseldir Flanders. Y trigolion, gan mwyaf, a ddiangasant, ac, a hwy heb un gartref, a ddaethant i Loegr, gan ddeisyf ar y brenin Harri y Cyntaf ar iddynt gael rhyw gwr o'r ynys i fyw ynddo. Harri oedd hael ddigon o'r hyn nid oedd ei eiddo ei hun, a roddes genad iddynt fyned i Benfro a Hwlffordd, a'r wlad o amgylch. Yn y cyfamser yr oedd y Cymry hwy benben â'u gilydd (megys dyna oedd eu hanffawd a'u hanras o hyd), a gwŷr Fflanders a gawsant yno breswylfa ddiogel, heb nemawr o daro, lle y maent yn aros hyd heddyw. O gylch can mlynedd ar ol hyny, a hwy yn afreolus, y daeth Llywelyn ab Iorwerth, Tywysog Cymru, â llu arnynt. Ond tra yr oedd efe yn gorphwys a'ilu ar Gefn Cynwarchan, yr anfonodd Seison sir Benfro geisio ammodau heddwch. Llywelyn a wrthododd eu cais, ac a fwriadodd unwaith i'w llwyr ddinystrio oddi ar wyneb gwlad Penfro. Ond ar ddeisyfiad Iorwerth, Esgob Dewi, efe a ganiataodd iddynt eu hoedÏ, ar eu gwaith (1.) yn talu iddo swm fawr o aur ac arian; (2.) yn tyngu ufudd—dod iddo ef a'i etifeddion ar ei ol; (3.) yn danfon ato ugain o'u pen bonedd i fod yn wystlon ar iddynt gyflawnu eu gair. [2]

Yn y flwyddyn 1293, y dygwyd Cymru gyntaf gan lywodraeth Brenin Lloegr: drwy frad a ffalsder, digon gwir; ac er hyny yn well, ïe, fil o weithiau yn well er lles cyffredin y wlad, nag yn amser y tywysogion, y rhai oeddent, fel bleiddiaid rheibus, mor chwannog i fwrddro eu gilydd. Canys pan fu farw Llywelyn ab Gruffydd, y tywysog diweddaf yng Nghymru o waed diledryw y Brytaniaid, y danfonodd y brenin Edward y Cyntaf at benaethiaid y Cymry i erchi

  1. Mes gwobr.
  2. Powel's Chron. p. 277, 278.